Disgwyl cyhoeddiad am enillwyr Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
ffuglen 2019
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tair nofel sydd yn cystadlu yng nghategori ffuglen orau 2019

Fe fydd gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Iau.

Bydd enillwyr y tri chategori Cymraeg, tri chategori Saesneg, enillwyr prif wobrau ac enillwyr barn y bobl yn y ddwy iaith yn cael eu cyhoeddi.

Fe fydd gwobr o £1,000 i enillwyr pob categori, a bydd enillwyr Llyfr y Flwyddyn yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.

Rhestrau Byr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2019

Gwobr Farddoniaeth

  • Twt Lol - Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)

  • Cyrraedd a Cherddi Eraill - Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)

  • Stafell fy Haul - Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth

  • Ynys Fadog - Jerry Hunter (Y Lolfa)

  • Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

  • Esgyrn - Heiddwen Tomos (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Cymru mewn 100 Gwrthrych - Andrew Green (Gwasg Gomer)

  • Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen' - Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)

  • Rhyddhau'r Cranc - Malan Wilkinson (Y Lolfa)

Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r darlledwr Dylan Ebenezer, Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth a'r bardd ac awdur Idris Reynolds.

Bydd gwobr Barn y Bobl, sy'n cael ei noddi gan golwg360, yn cael ei roi i'r gyfrol a gafodd y bleidlais gyhoeddus fwyaf.

Yn Saesneg, mae'r 'People's Choice Award' yn cael ei noddi gan y Wales Arts Review.

Mae'r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Sandeep Parmar, Dr Louise Holmwood-Marshall o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Emeritws Russell Celyn Jones.

Rhestrau Byr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2019

Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias

  • Insistence - Ailbhe Darcy (Bloodaxe)

  • Salacia - Mari Ellis Dunning (Parthian)

  • Gen - Jonathan Edwards (Seren)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth

  • Arrest Me, for I Have Run Away - Stevie Davies (Parthian)

  • West - Carys Davies (Cyhoeddiadau Granta)

  • Sal - Mick Kitson (Canongate)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Moneyland - Oliver Bullough (Profile)

  • The light in the dark: A winter journal - Horatio Clare (Elliott & Thompson)

  • Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war - Gethin Matthews (Gwasg Prifysgol Cymru)

Pan gafodd y rhestrau byr eu cyhoeddi, dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Dyma gyfrolau sy'n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd.

"Mae iechyd meddwl a hunaniaeth - boed yn bersonol neu'n genedlaethol - yn llinyn cyswllt drwy'r cyfan.

"Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru."