Carcharu dyn am yrru 130m.y.a. gyda phlentyn yn y car
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu wedi iddo gyfadde' gyrru ar gyflymder dros 130m.y.a. wrth iddo ffoi rhag yr heddlu.
Roedd Lucas Needham, 26 o Gei Connah, yn cario bachgen saith oed yn y sedd flaen ar y pryd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod hefyd wedi pledio'n euog i gyhuddiad arall yn ymwneud â digwyddiad gwahanol lle na wnaeth stopio ar ôl damwain ym mis Ionawr.
Cafodd Needham ei ddedfrydu i gyfanswm o ddwy flynedd a hanner dan glo am y troseddau.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Needham wedi gyrru ar gyflymdra o 130m.y.a. ar yr A55 ym mis Mai, a'i fod ar un adeg wedi gyrru heb oleuadau yn y tywyllwch.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Mae hi'n anodd dychmygu ymddygiad mwy anghyfrifol na'r hyn a welwyd gennych chi ar 20 Mai.
"Mae hi'n ofnadwy eich bod chi wedi dangos y fath ddifaterwch ynglŷn â diogelwch y plentyn."
Cafodd Needham ei ddedfrydu i 13 mis yn y carchar am y drosedd ym mis Ionawr, ac 17 mis am y drosedd ym mis Mai.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019