Dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
![Dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13F73/production/_107497718_gmdth.jpg)
Dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn
Bu nifer yn gorymdeithio trwy Gaerdydd fore Sadwrn i nodi 70 mlynedd o addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Cafodd yr ysgol Gymraeg gyntaf ei hagor yng Nghaerdydd ar y 5 Medi 1949, mewn 'stafell ddosbarth yn Ysgol Fodern y Bechgyn ym Mharc Ninian.
Mae'r ddinas bellach yn gartref i 17 o ysgolion cynradd a 3 o ysgolion uwchradd Cymraeg eu cyfrwng.
Yn ôl Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, mae dros 8,000 o ddisgyblion yn dysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Fe gychwynnodd yr orymdaith am 10:00 tu allan i Neuadd y Ddinas, a daeth i ben ar faes gŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd.
Yn 2018 agorodd ysgol Gymraeg newydd, Ysgol Glan Morfa yn Sblot, ac fe symudodd Ysgol Hamadryad i adeilad mwy yn Nhre-biwt.
Erbyn hyn, mae 50% o ddisgyblion ysgolion Cymraeg Caerdydd yn dod o deuluoedd di-gymraeg.
Ond yn 1949, dim ond plant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith oedd yn cael eu derbyn i addysg Gymraeg.
![Lleoliad gwreiddiol Ysgol Gymraeg Caerdydd - Ysgol Ninian Park, Sloper Road, Caerdydd (Mawrth, 2019)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/23E4/production/_107488190_13fa40fd-2846-4d22-a5c4-d5d9874d1aa1.jpg)
Lleoliad gwreiddiol Ysgol Gymraeg Caerdydd - Ysgol Parc Ninian, Ffordd Sloper, Caerdydd (Mawrth, 2019)
Roedd Sian Thomas ac Iwan Guy yn rhai o ddisgyblion cyntaf yr ysgol Gymraeg - aeth y ddau i'r ysgol yn 1949 yn bump oed.
Dywedodd Ms Thomas: "Roedd plant yr ardal yn gwneud hwyl ar ein pennau ni am ein bod ni'n gwneud rhywbeth gwahanol. Roedd yr agweddau gwrth-Gymreig yn gryf bryd hynny.
"Ond erbyn hyn, mae agweddau pobl wedi newid gymaint nes bod pobl yn penderfynu gyrru eu plant i'r ysgol Gymraeg er mwyn bod yn ddwyieithog."
![Dydd Gwyl Ddewi yn Ysgol Bryntaf 1976](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6E1C/production/_107488182_mediaitem107488181.jpg)
Dydd Gŵyl Dewi yn Ysgol Bryntaf 1976
Bu'r Ysgol Gymraeg gyntaf yn rhannu safle Parc Ninian tan 1952, cyn symud i Highfields, Llandaf, a'i ailhenwi yn Ysgol Bryntaf.
'Fel bod mewn byd arall'
Wrth hel atgofion, dywedodd Mr Guy bod y profiad o fod yn ddisgybl mewn ysgol Gymraeg fel "byw mewn byd arall.
"Doedd dim tai bach yn yr ysgol tra'n Ninian Park, felly roedd yn rhaid i ni gerdded trwy'r iard i fynd i'r tŷ bach tu allan yn ystod yr egwyl.
"Fi'n cofio'r plant o'r ysgol Saesneg yn gweiddi: 'look it's the Welshies!'"
![Holl staff a disgyblion Ysgol Bryntaf, Tachwedd 1954](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BC3C/production/_107488184_mediaitem107488183.jpg)
Tynnwyd y llun hwn i nodi canfed disgybl Ysgol Bryntaf, Tachwedd 1954
Bu'n rhaid i Mr Guy a Ms Thomas symud i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn 11 oed gan fod Ysgol Glantaf ddim wedi agor tan 1978 ac Ysgol Plas Mawr ddim tan 1998.
Yn 1980, roedd nifer disgyblion Ysgol Bryntaf wedi tyfu i 600 - yr ysgol gynradd fwyaf yn Ewrop ar y pryd - ac felly agorwyd Ysgol Melin Gruffydd yn 1981.
Yr Orymdaith
Fe ymunodd cynrychiolaeth o bob ysgol Cymraeg yng Nghaerdydd â'r orymdaith fore Sadwrn.
Dywedodd y trefnwyr bod yr orymdaith yn "gyfle i ddangos i rieni Caerdydd fod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i'w plant ym mhob cornel o'r ddinas".
Fel rhan o'r dathliadau, mae disgyblion Ysgolion Treganna, Creigiau, Nant Caerau, Gwaelod y Garth a Coed y Gof wedi gweithio gyda Mei Gwynedd i gyfansoddi cân o ddathlu sef 'Ni yw Plant y Wlad'.
Bu Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd fydd yn cyfarch y gorymdeithwyr.
Wrth ymateb i'r orymdaith, dywedodd Mr Thomas fod Cyngor Caerdydd yn "falch o chwarae rhan i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a byddwn ni'n parhau i weithio'n galed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2019