Ymweld â phob ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd... mewn dydd

  • Cyhoeddwyd

Eleni, bydd yna ddathliadau lu yng Nghaerdydd i nodi 70 mlynedd o addysg Gymraeg yn y brifddinas, yn dechrau gyda gorymdaith drwy ganol y ddinas ar Ddydd Sadwrn 22 Mehefin, fel rhan o ŵyl Tafwyl.

Agorwyd yr ysgol Gymraeg gyntaf - Ysgol Gymraeg Caerdydd - ar Virgil Street, yn ardal Grangetown, ym mis Medi 1949, cyn symud yn 1952 i safle yn Llandaf a'i ail-enwi yn Ysgol Gymraeg Bryntaf. Ar y safle hwnnw mae Ysgol Pencae heddiw.

Bellach, mae 15 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg - y diweddaraf o'r rhestr yw Ysgol Hamadrayad, yn gwasanaethu ardal Grangetown, â'r cylch yn gyflawn - a thair ysgol uwchradd.

Mae Meurig Rees yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Bryntaf. Penderfynodd nodi'r pen-blwydd drwy fynd ar daith feic o amgylch y ddinas, i ymweld â phob ysgol Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Meurig Rees

Er nad oeddwn yn ddisgybl yno pan agorodd yr ysgol yn 1949 - dwi heb gyrraedd oed yr addewid eto - mi fues i'n ddisgybl yn yr ysgol gyntaf honno, wedi iddi symud i'w safle parhaol cyntaf yn Llandaf a chael yr enw 'Ysgol Bryntaf'.

Dwi'n cofio fi a'm chwaer hŷn, Lyn, yn aros am un o'r faniau cludo disgyblion (a phrydau ysgol!) ar fy niwrnod cyntaf o addysg gynradd ganol yr 1950au.

Ffynhonnell y llun, Meurig Rees
Disgrifiad o’r llun,

Meurig Rees, gyda'i chwaer, ar ei ddiwrnod cyntaf yn Ysgol Bryntaf yn 1956

Symudais o Gaerdydd i'r Gogledd union hanner can mlynedd yn ôl. Ond roeddwn i eisiau ddathlu'r 70 a gweld lle mae'r holl ysgolion hynny yr esgorodd Ysgol Gymraeg Caerdydd arnynt.

Penderfynais fynd ar daith - taith i ddathlu twf a datblygiad ysgolion Cymraeg ein prifddinas. Taith i ddathlu "taith yr iaith".

Taith fer a chymharol hawdd o ryw 31 milltir oedd hon, ond taith hirach o lawer oedd yr un a ddaeth â ni at y dathliadau eleni. Taith lle roedd angen dycnwch, dyfalbarhad, aberth, ymroddiad ac ymdrech gan garedigion y Gymraeg.

Taith y mae miloedd o blant a phobl ifainc wedi gallu manteisio arni a chael yr addysg orau i ddatblygu eu doniau ac yn bwysicach fyth i gynnal a meithrin ac ennill iaith.

Roedd yn gyfle hefyd i mi 'droedio' hen lwybrau a gweld sut y mae Caerdydd fy mhlentyndod wedi newid.

Pan yn blant, reidio beic o le i le oedd ein modd o ddod i adnabod ein bro a'n dinas. Felly, ar fy meic oeddwn i am fynd eto eleni, er i'r ddinas a'i thrafnidiaeth dyfu, a'r peryglon gynyddu yn sgil hynny.

Ffynhonnell y llun, Meurig Rees
Disgrifiad o’r llun,

Y plac ar adeilad Ysgol Ninian Park

Mi wnes i fapio ac yna dilyn llwybr o'r safle lle agorodd yr ysgol gyntaf, Ysgol Ninian Park, i bob un arall, cynradd ac uwchradd.

Pen y daith oedd yr ysgol newyddaf a'r ddiweddaraf, sef Ysgol Hamadryad yn y Docks. (I chithau sy'n 'nabod y ddinas yn dda roedd y daith hon yn "Tour de Caerdydd - o Virgil Street i Rat Island".)

Ymddiheuriadau llaes i ysgolion dau gyfrwng Gwaelod-y-Garth a'r Creigiau am beidio eu cynnwys - braidd yn bell i hen feiciwr fel fi ac er yn rhan o'r Gaerdydd fawr newydd, y tu allan i fy Nghaerdydd hanesyddol i.

Cefais gyfle i bicio i mewn i dderbynfa'r holl ysgolion a chael pwt o sgwrs anffurfiol â rhai o'r staff (a chyfle i mi gael fy ngwynt ataf).

Ond roedd y ddwy ysgol olaf wedi gorffen eu diwrnod gwaith erbyn i mi eu cyrraedd - arwydd i mi loetran a sgwrsio gormod yn y lleill. Neu efallai mai beicio'n rhy araf oeddwn, heb sôn am ddilyn ambell gam gwag a cholli'r ffordd ambell dro.

Ffynhonnell y llun, Meurig Rees
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Meurig groeso cynnes yn yr ysgolion. Yn Ysgol Treganna, cafodd sgwrs â staff y dderbynfa a'r pennaeth, Rhys Harries

Pleser pur oedd sgwrsio â'r staff, rhai yn benaethiaid, eraill yn athrawon, a llawer yn staff y dderbynfa. Cefais ambell gwestiwn gan ddisgyblion chwilfrydig hefyd. Diolch am y croeso cynnes a chyfeillgar a gefais.

Braf oedd taro ar ambell gysylltiad oedd yn pontio'r 70 mlynedd neu yn brawf ein bod ni yng Nghymru yn 'nabod rhywun sy'n 'nabod rhywun sy'n ein 'nabod ni lle bynnag yr awn.

A'r pleser mwyaf oll oedd cael fy nhywys gan Bennaeth Ysgol Pencae o gwmpas yr ysgol honno sydd ar safle'r hen Ysgol Bryntaf gwreiddiol.

Ffynhonnell y llun, Meurig Rees
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Pencae - y Bryntaf gwreiddiol

Er i'r adeiladau gael eu hehangu dros 20 o flynyddoedd yn ôl, hawdd oedd adnabod, wedi bwlch o 56 o flynyddoedd yr hen rannau gwreiddiol: y fynedfa; hen swyddfa'r Brifathrawes gyntaf, Mrs Enid Jones Davies; y neuadd fach lle y cynhaliwyd y gwasanaethau a'r canu a'r ciniawa; parwydydd pren a gwydr dosbarthiadau safon 2 a 3; ystafell safon 4 - yn awr yn ystafell athrawon; a thu allan, buarth chwarae gwastad braf lle roedd y cae glaswelltog llethrog; yr arwyddair "Ymdrech a lwydda" ar y talcen islaw'r tŵr a'r wal o goncrit llyfn - yr unig olion o'r cafn a'r toiledau tu fas ar ein cyfer ni'r bechgyn.

Trodd yr un ysgol gyntaf honno yn ddeunaw ysgol erbyn hyn.

Dewch i rannu'r daith gyda mi a dathlu a diolch wrth wneud.

Ar Daf yr iaith a dyfodd.

Disgrifiad o’r llun,

18 o ysgolion Cymraeg Caerdydd - yn y drefn yr aeth Meurig Rees i ymweld â nhw

Hefyd o ddiddordeb: