'Y frwydr o glirio traethau yn ormod,' medd ymgyrchydd
- Cyhoeddwyd
Mae amgylcheddwr o Aberystwyth sydd wedi treulio rhan helaeth o'i amser yn glanhau traethau yn dweud ei fod am roi'r gorau iddi gan ei fod yn credu fod ei frwydr ar ben.
Mae Alan Cookson, 46 oed, yn amcangyfrif ei fod wedi glanhau 120 o draethau fel rhan o'i waith yn gwirfoddoli i elusen Surfers Against Sewage (SAS).
Dywed Mr Cookson ei bod hi'n "deimlad torcalonnus" rhoi gorau i'r gwaith ond ei bod yn ofni ei bod yn rhy hwyr achub y môr rhag llygredd plastig.
Mae e hefyd yn cyhuddo grwpiau pwyso o gystadlu yn erbyn ei gilydd yn lle cydweithredu.
Dywed Mr Cookson nad yw'n stopio "casglu plastig" wrth gerdded o gwmpas ac mae'n credu ei fod wedi clirio o leiaf 5,000kg (5 tunnell) o blastig oddi ar draethau Cymru.
Ond wedi pedair blynedd o wneud y gwaith mae am roi'r gorau iddi a threulio mwy o amser gyda'i deulu.
'Cystadlu am yr un arian'
Dywedodd: "Pan ddechreuais i ar y gwaith roedd yna amcangyfrif bod 8,000 tunnell o blastig yn mynd i'r môr bob blwyddyn ac roedd 5.5 triliwn darn o blastig yn llygru'r dyfroedd.
"Ond bellach wrth i mi roi'r gorau i'r gwaith mae'r nifer wedi cyrraedd 10,000 tunnell ac mae oddeutu 50 triliwn darn o blastig nad oes modd ei gyrraedd."
Mae'n beirniadu llywodraethau a busnesau mawr am fethu â thaclo'r broblem o ddifrif ac ychwanega bod cefnforoedd y byd yn "farw neu mi fyddant yn farw yn fuan".
Mae Mr Cookson yn feirniadol hefyd o'r sector amgylcheddol wirfoddol.
"Yn ystod fy mhedair blynedd o wirfoddoli," meddai, "rwyf wedi gweld y Surfers Against Sewage, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Cadwch Cymru'n Daclus yn cystadlu am yr un arian - yn copïo ymgyrchoedd ei gilydd yn hytrach na chydweithredu."
Dywed Surfers Against Sewage nad ydynt yn gallu uniaethu â sylwadau Mr Cookson ond ei bod yn gwerthfawrogi ei sylwadau ar gyfer sgwrs ehangach.
Wrth ymateb dywedodd y prif weithredwr Hugo Tagolm: "Ry'n yn cydweithio gyda nifer o elusennau - ond does neb yn yr elusen yn credu mai un elusen unffurf yw'r ffordd ymlaen."
Dywed Y Gymdeithas Cadwraeth Forol ei bod "yn falch o'i chydweithrediad â sefydliadau a grwpiau ymgyrchu eraill."
Ychwanegodd Mr Cookson: "Mae rhoi'r gorau i'r gwaith yn torri fy nghalon, ond mae gen i dri o blant sydd hyd yma ddim wedi treulio fawr o benwythnosau gyda'u tad gan ei fod yn brwydro dros rywbeth y teimlai y gallai ei oresgyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019