Plannu 150,000 o goed i atal llifogydd yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd
Bydd 150,000 o goed yn cael eu plannu yng Nghastell-nedd fel rhan o gynllun i greu 235 erw o goetir brodorol newydd.
Y bwriad yw cyflwyno amryw o lasbrennau, gan gynnwys derw a chyll ar ffermdir uwchben Parc Gwledig y Gnoll.
Bydd y cynllun gwerth £2m yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Coed Cadw ac yn cael ei gyllido trwy grantiau ac apêl gyhoeddus.
Bydd hyn yn gymorth i gyflawni cymal nesaf cynllun Plant! yng Nghymru, sydd yn gweld coeden yn cael ei blannu ar gyfer pob plentyn sydd yn cael ei eni neu ei fabwysiadu.
Eglurodd Maggie Elsey-Cox o'r Ymddiriedolaeth bod "sawl budd i'r ecosystem" yn deillio o greu coetir newydd.
Yn ogystal â chasglu 23,000 tunnell o garbon deuocsid yn ystod ei oes, bydd y coetir yn helpu lleihau'r risg o lifogydd.
"Mae ymchwil yn dangos drwy blannu coed a chreu canopi, mae dŵr glaw yn llifo ar gyfradd arafach oddi ar y dail ac yn llifo ar gyfradd arafach i mewn i'n nentydd a'n hafonydd, fydd yn atal llifogydd mewn ardaloedd risg uchel, fel yn y dyffryn yma, yn y dyfodol," meddai Ms Elsey-Cox.
Bydd Ymddiriedolaeth Coed Cadw yn ymgynghori â phobl Castell-nedd Port Talbot er mwyn enwi'r coetir newydd.
Bydd y coed newydd hefyd yn helpu gwarchod coedwig hynafol Brynau ar y safle ac yn cynyddu bioamrywiaeth yr ardal.
Yn ogystal â chefnogi'r bywyd gwyllt presennol, mae cynlluniau i bori saith o frîd prin gwartheg hynafol Gwyn Cymreig yn y coetir.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gobeithio dechrau plannu'r coed yn ystod y gwanwyn nesaf ac yn amcangyfrif y bydd yn cymryd rhwng 20 a 30 mlynedd i'r safle aeddfedu.
Mae hanner y cyllid angenrheidiol wedi'i sicrhau drwy grantiau ond mae Ymddiriedolaeth Coed Cadw wedi lansio apêl gyhoeddus i godi'r £1m sy'n weddill.
Cymru yw un o wledydd lleiaf coediog Ewrop gyda choed yn gorchuddio ond rhyw 15% o'n tir o'i gymharu â chyfartaledd o 37% o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o greu 100,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018