Asiant Emiliano Sala yn derbyn rhybudd am aflonyddu
- Cyhoeddwyd
Mae asiant fu'n gweithio ar drosglwyddiad Emiliano Sala i Glwb Pêl-droed Caerdydd wedi derbyn rhybudd am aflonyddu gan yr heddlu.
Cafodd Willie McKay, 60, ei gyfweld gan Heddlu'r Met ar 28 Mai, ond ni chafodd ei arestio.
Roedd honiadau bod Mr McKay wedi bygwth staff y clwb ym mis Chwefror - honiadau yr oedd o yn eu gwrthod.
Mae Mr McKay eisoes wedi cyhuddo Caerdydd o "gefnu" arno yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd y clwb ym mis Mawrth eu bod nhw'n teimlo bod rhaid cysylltu â'r heddlu ynglŷn â'r mater.
Fe wnaeth o leiaf un o'r bygythiadau honedig ddigwydd yn Llundain, ac felly fe wnaeth Heddlu De Cymru drosglwyddo'r ymchwiliad at Heddlu'r Met.
Dywedodd Heddlu'r Met mewn datganiad bod dyn wedi derbyn rhybudd am aflonyddu a bod yr ymchwiliad nawr ar ben.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwrthod gwneud sylw am yr ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019