Saethu Llanbedrog: Dyn yn euog o ddynladdiad Peter Colwell

  • Cyhoeddwyd
Peter ColwellFfynhonnell y llun, Llun Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Peter Colwell ar ôl cael ei saethu mewn cerbyd yn Llanbedrog

Mae un dyn wedi ei gael yn euog o ddynladdiad ar ôl i ddyn ifanc gael ei saethu yng Ngwynedd.

Bu farw Peter Colwell, 18, yn Chwefror 2017 ar ôl cael ei saethu mewn cerbyd y tu allan i dafarn Y Llong yn Llanbedrog, ger Pwllheli.

Ddydd Mawrth cafwyd perchennog y gwn laddodd Mr Colwell, Ben Wilson, 29, yn euog o'i ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Cafwyd Ben Fitzsimons, 23, yn ddieuog o'r un cyhuddiad yn Llys y Goron Caernarfon.

'Dedfryd o garchar'

Mewn gwrandawiad blaenorol cafwyd Fitzsimons yn euog o fod â gwn wedi'i lwytho mewn man cyhoeddus, ac fe wnaeth Wilson hefyd bledio'n euog i'r un cyhuddiad.

Bydd y ddau yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands y dylai'r pâr "baratoi eich hunan ar gyfer dedfryd o garchar".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Colwell ei saethu mewn cerbyd y tu allan i dafarn Y Llong yn Llanbedrog

Clywodd yr achos bod Wilson a Fitzsimons wedi treulio noson 5 Chwefror yn yfed gyda Mr Colwell a dau arall, gan deithio i wahanol dafarndai mewn Land Rover Discovery.

Yn ôl yr erlynydd Patrick Harrington roedd y gwn, oedd wedi ei lwytho, yn sedd flaen y cerbyd yn pwyntio tuag at y sedd gefn.

Pan ddychwelodd y grŵp i'r car, roedd Fitzsimons yn eistedd yn y sedd flaen, gyda Mr Colwell yn eistedd yng nghanol y sedd gefn.

"O fewn ychydig o amser, cafodd y gwn ei saethu," yn ôl Mr Harrington.

Cafodd Mr Colwell ei ladd "yn syth" gan ergyd i'w ben.

Clywodd y llys hefyd nad oedd y farwolaeth yn un bwriadol na maleisus.