Y pryderon o fod yn fam ac yn gerddor

  • Cyhoeddwyd
Angharad JenkinsFfynhonnell y llun, Angharad Jenkins

Mae Angharad Jenkins yn chwaraewr ffidl adnabyddus yn y sin gwerin yng Nghymru, yn aelod o fandiau fel Calan, Pendevig a DnA.

Ac mae hi bellach yn fam, wedi iddi roi genedigaeth i Tanwen Haf ym mis Mehefin 2019.

Hyd yn oed cyn iddi syrthio'n feichiog, roedd Angharad yn pendroni sut beth fyddai bod yn gerddor ac yn fam. Penderfynodd ddechrau blog, Mumsician, dolen allanol, er mwyn rhannu ei phrofiadau a chlywed gan ferched eraill yn yr un sefyllfa.

Dwi wastad wedi bod yn glir am ddau beth yn fy mywyd; mod i eisiau bod yn gerddor, a mod i eisiau magu plant.

Ac yn ddigon rhyfedd, ers i fi fod yn ifanc iawn dwi wedi poeni am sut gallai'r ddau beth weithio gyda'i gilydd. Efallai achos mod i wedi gweld gyrfa fy mam - sydd hefyd yn gerddor - yn addasu oherwydd fi a fy chwaer.

Gyda'r hen body clock yn tician, a phryderon am anawsterau beichiogi ar flaen fy meddwl, perswadiais fy mhartner Dafydd bod e'n hen bryd i ni ddechrau treial.

Ond doedd dim anawsterau o gwbl. Heb or-feddwl, na chynllunio dim, yn sydyn reit dyma'r peth bach 'ma yn dechrau tyfu tu fewn i fi.

Wrth i mi sgwennu hyn, dylen i fod ar ganol taith gyda band arbennig o gerddorion jazz o'r enw Cwmwl Tystion. Pythefnos o daith o gwmpas Cymru a draw i Lundain; prosiect cyffrous, arbrofol a genre gwbl newydd i fi.

Ond wrth gwrs, achos yr amseru (roedd due date y babi yng nghanol y daith) bu'n rhaid i fi dynnu mas. O'n i'n grac ac yn siomedig am y peth ar y dechrau.

Ond does dim amser delfrydol i gael plant. A dim ond un daith ac un prosiect oedd hwn - ond beth am weddill fy ngyrfa? Sut ydw i am ymdopi gyda theithio a chyfansoddi gyda phlentyn bach?

Ffynhonnell y llun, John Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Jenkins yn perfformio fel rhan o Calan yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2019

Mae llwyth o bryderon gen i.

Pryderon ymarferol o deithio, ac i fod oddi adref am gyfnodau hir. Teithio gyda'r babi, neu'i gadael hi adref?

Mae gen i bryderon ariannol. Wyddoch chi, mae 'na lwfans mamolaeth ar gael i bobl llawrydd fel fi, ond ges i'r llythyr wythnos diwetha' yn dweud y bydda i'n derbyn y swm hael iawn o £27 yr wythnos!

Mae 'na bosibilrwydd gall hyn godi i £145 yr wythnos yn dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol, a hynny am 10 mis.

Well na dim byd, meddech chi. Ond os ydw i'n gweithio mwy na 10 diwrnod o fewn y cyfnod yna, bydd yr arian yn peidio.

Ydw i wir mo'yn troi lawr gigs, fydd efallai'n talu'n well na hynny, a thynnu fy hun mas o'r sîn, jyst er mwyn derbyn y budd-dâl?

Ac eto, mae pawb yn dweud dylwn i beidio gwthio fy hun, a chymryd amser bant i fwynhau'r cyfnod mamolaeth. "Wyddoch chi, mae nhw'n tyfu mor gyflym! S'mo chi mo'yn colli mas ar yr amser yna."

Ond os ydw i'n cymryd hoe go iawn, dwi'n poeni bydd y ffôn yn dechrau peidio canu, a'r e-byst yn arafu. Os oedd bobl yn gwybod fod babi gen i, efallai byddant yn cymryd mod i ddim eisiau gweithio, ac yn stopio meddwl amdana i am waith.

Ffynhonnell y llun, Angharad Jenkins

Daeth y syniad i gadw blog Mumsician. Ydyw e'n bosib i fod yn fam ac yn gerddor?

Dyma le i fi sôn am fy mhryderon a fy ngobeithion am droi'n fam. Ond hefyd cyfle i alw mas i ferched eraill yn yr un sefyllfa.

Dwi eisiau dysgu am eu profiadau nhw, sut mae nhw'n ymdopi, ac ar yr un pryd tynnu sylw at bwnc dwi'n teimlo sydd angen trafodaeth agored.

Dwi wedi cael fy synnu gan yr ymateb. O'r blaen o'n i'n teimlo'n unig yn fy sefyllfa - ond wrth gwrs, y gwir amdani yw mae 'na lwyth o ferched ysbrydoledig sy'n llwyddo i gydbwyso gyrfa fel cerddor a bod yn fam.

A nid yn unig hynny, mae'r profiad o gael plant wedi cyfoethogi bywydau a gyrfaoedd nifer ohonynt.

Ffynhonnell y llun, DnA
Disgrifiad o’r llun,

Mam a merch - mae Angharad yn cyd-chwarae gyda'i mam, Delyth, o dan yr enw DnA

Y cyntaf i ymateb i fy nghwestiynau oedd Lleuwen Steffan, ac roedd ei mewnwelediad hi ar y pwnc yn agoriad llygaid llwyr i mi, ac mae hi'n honni ei bod hi'n sgwennu caneuon gwell ers cael y plant.

Ac mae Holly o'r band The Lovely Eggs yn cyfaddef bod y band wedi mynd yn fwy llwyddiannus ers iddi gael plentyn.

Doeddwn i erioed wedi ystyried sut gallai plant cael effaith positif yn greadigol ar waith a gyrfa rhywun.

Mae'r prinder merched yn y diwydiant cerddoriaeth yn dipyn o bwnc llosg.

Fydden i'n synnu dim petai cysylltiad rhwng hyn a'r ffaith bod angen i ferched addasu eu gyrfaoedd er mwyn magu plant.

Dylen ni ferched godi ymwybyddiaeth am ein sefyllfa, a chefnogi ein gilydd trwy rannu profiadau. Dwi wedi teimlo cymaint yn well wrth siarad gyda mamau cerddorol eraill, a bod yn agored am fy sefyllfa.

Efallai fydda i ddim yn gallu teithio America eto am fis ar y tro. Ond yn lle teimlo fel methiant oherwydd hynny, mae'n rhaid i mi edrych ar yr ochr positif. Efallai bydd drysau gwahanol yn agor.

Dwi wedi gwagio fy nyddiadur i raddau dros yr haf, ond mae gen i ddau gig ar y gweill, a dwi'n poeni am sut ydw i am deithio iddyn nhw. Mae'n siŵr y bydd y siwrne i Sesiwn Fawr Dolgellau, yn cymryd rhyw chwech awr yn hytrach na thair awr o Abertawe.

Ond fel mae Lleuwen yn dweud, gwaith tîm yw hi, a dwi'n ofnadwy o lwcus y bydd Dafydd a fy mam yn dod gyda fi i'r gigs yma.

Ffynhonnell y llun, Angharad Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu bach newydd - Dafydd, Tanwen ac Angharad

Wrth gwrs, ar ôl sbel, bydd rhaid i Dafydd ddychwelyd i'r gwaith, felly wn i ddim sut bydd pethau yn newid o rhan teithio i fi.

Aros i weld am wn i, parhau i ddysgu gan famau eraill, a gobeithio bydd y diwydiant cerddoriaeth yn barod amdana i a fy mabi bach!

Hefyd o ddiddordeb: