Trefn Heddlu Gwent o gadw plant yn y ddalfa yn 'bryder'

  • Cyhoeddwyd
Young girl sat on the floorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad fod plant yn aml yn cael eu cadw yn yr un lleoliad ag oedolion

Mae trefniadau Heddlu Gwent o ran cadw plant yn y ddalfa yn achos pryder, yn ôl adroddiad arolygydd.

Mae plant dan amheuaeth o drosedd yn cael eu cadw yn yr un ardal ag oedolion yn gyson, yn ôl Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS).

Roedd oedi hefyd cyn bod swyddogion yn cyrraedd i gefnogi plant yn y ddalfa, medd yr adroddiad.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn cymryd argymhellion yr adroddiad o ddifrif.

Mannau diogelwch priodol

Cafodd arferion amddiffyn plant Heddlu Gwent eu harolygu yn Chwefror 2019.

Er y pryderon, roedd yr adroddiad yn canmol rhai agweddau, gan gynnwys pan gafodd plant eu symud am resymau diogelwch, yn eu plith achosion ble roedd eu rhieni wedi ymosod arnyn nhw.

Ar yr adegau hynny, daeth yr arolygwyr i'r casgliad fod swyddogion wedi defnyddio eu pwerau yn briodol.

Er hyn, dywed yr adroddiad fod plant yn cael eu cymryd "yn aml" i orsaf heddlu ac y dylai hynny ond digwydd mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae'r Arolygiaeth yn argymell bod Heddlu Gwent yn gweithio, o fewn tri mis, i sicrhau bod plant yn cael eu cludo i fannau diogelwch priodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd trefniadau amddiffyn plant Heddlu Gwent eu harolygu yn Chwefror 2019

Yn ôl yr HMICFRS, mewn 80 o achosion lle'r oedd plant mewn perygl, ymatebodd Heddlu Gwent yn dda mewn 20 o achosion.

Roedd le i wella yn 37 achos arall, ac roedd yr ymateb yn annigonol mewn 23 achos.

Argymhellion yr arolygiaeth

Mae'r arolygiaeth yn pwysleisio'r meysydd canlynol sydd angen eu gwella:

  • Sicrhau bod swyddogion yn siarad â phlant a bod eu safbwyntiau'n cael eu clywed er mwyn cofnodi a rhannu gwybodaeth gyda'r asiantaethau perthnasol;

  • Y ffordd o gofnodi gwybodaeth a'i rannu ag asiantaethau perthnasol;

  • Y ffordd o gofnodi gwybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd ymchwiliol a chynlluniau amddiffynnol;

  • Goruchwylio ymchwiliadau i sicrhau bod cyfleoedd i ymchwilio yn cael eu dilyn a'u cydlynu heb oedi diangen;

  • Dulliau wrth reoli unigolion sy'n peri risg i blant.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn cymryd casgliadau'r adroddiad o ddifrif

Mae'r arolygwyr yn nodi bod Heddlu Gwent "wedi dangos ymrwymiad clir i ddiogelu plant" a "bod arweinwyr, swyddogion a staff yn cymryd eu cyfrifoldebau amddiffyn plant o ddifrif".

Dywed yr adroddiad fod sawl enghraifft o arfer da yn amrywio o "waith ymateb rheng flaen da" i "ymchwiliadau amserol i achosion dosbarthu delweddau anweddus".

'Amddiffyn pobl fregus'

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Nicky Brain bod y llu "wedi ymrwymo i amddiffyn pobl fregus" ac yn "gweithio'n galed i wella'r ffordd rydym yn rheoli risg ac yn darparu cefnogaeth".

"Dydy hynny ddim yn golygu nad oes heriau ar adegau, ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i wella ein harferion er mwyn cadw plant yng Ngwent yn ddiogel.

"Bydd cryfhau'r cysylltiadau hyn yn ein helpu i atal cam-drin yn y dyfodol."

Ychwanegodd bod y llu wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y maes yn y blynyddoedd diwethaf.

"Ar hyn o bryd mae gennym gynlluniau ar waith a byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod ein dull o amddiffyn plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent."

Bydd yr Arolygiaeth yn cynnal archwiliad pellach o alluoedd amddiffyn plant Heddlu Gwent o fewn y chwe mis nesaf.