Derbyn Ryan Giggs i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Giggs 12 o goliau i Gymru yn ystod ei yrfa

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs ymhlith y sêr sydd wedi eu derbyn i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru eleni.

Roedd Giggs, a chwaraeodd 64 o gemau dros ei wlad gan sgorio 12 o goliau, yn un o'r pump gafodd eu derbyn yn ystod seremoni nos Fercher.

Cafodd cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Steve Fenwick, y nofwyr Jazz Carlin a Michaela Breeze a chyn-chwaraewr a rheolwr tîm pêl-rwyd Cymru, Wendy White, hefyd eu hanrhydeddu.

Dywedodd Laura McAllister, Cadeirydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru: "Mae pum seren arall o'r byd chwaraeon wedi cael eu hychwanegu i'r oriel ac roedd hi'n grêt cael Ryan, Michaela, Jazz a Steve yn ymuno â chynulleidfa o bron i 400 o bobl."

"Ac roedd derbyn Wendy White, a fu farw yn 2016, yn achlysur arbennig i bêl-rwyd yng Nghymru."

Cafodd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a chyn-bennaeth adran chwaraeon yr ysgol hefyd eu cydnabod am eu cyfraniad arbennig i chwaraeon yng Nghymru.

Mae Gareth Bale, Sam Warburton a Geraint Thomas i gyd yn gyn-ddisgyblion.

Giggs yw'r 23ain chwaraewr pêl-droed i gael ei dderbyn, gan ymuno â rhestr sy'n cynnwys Mark Hughes, Gary Speed a John Toshack.