Tîm achub i chwilio am Gymro sydd ar goll yng Ngroeg

  • Cyhoeddwyd
John TossellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Tossell wedi bod ar goll ar ynys Zante ers dros wythnos

Mae tîm achub mynydd o Gymru wedi cynnig helpu chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll yng Ngroeg ers dros wythnos.

Ni ddychwelodd John Tossell, sy'n 73 ac o Ben-y-bont, i'w westy ar ôl mynd i gerdded ar ynys Zante ar 17 Mehefin.

Fe dreuliodd gwasanaethau brys yr ynys wythnos yn edrych amdano, ond mae'r awdurdodau bellach wedi dod â'r chwilio i ben.

Mae Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau wedi cynnig helpu gyda'r chwilio, ond maen nhw angen codi £5,000 er mwyn gallu gwneud hynny.

Roedd Mr Tossell ar drydydd diwrnod ei wyliau gyda'i bartner Gillian ac roedd wedi mynd i gerdded i fynachlog ar Fynydd Skopos ger pentref Argassi pan aeth ar goll.

Mae gan Gareth Hopkins, un o'r achubwyr sy'n gobeithio teithio draw, gysylltiad teuluol â Mr Tossell: "Rydw i'n teimlo affinedd gydag ef a 'da ni jest eisiau mynd er mwyn gallu helpu'r teulu."

Gobaith y tîm yw codi arian er mwyn gallu talu am hediadau a llety ar gyfer y 13 aelod sy'n bwriadu teithio i'r ynys yn y dyddiau nesaf.

Mae dros £1,700 eisoes wedi ei gasglu ar wefan cyllido torfol.