Carcharu dau ddyn yn dilyn marwolaeth saethu Llanbedrog

  • Cyhoeddwyd
Ben Wilson a Ben FitzsimonsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Wilson a Ben Fitzsimons eu dedfrydu i gyfanswm o naw mlynedd dan glo

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu wedi i ddyn ifanc gael ei saethu i farwolaeth yng Ngwynedd.

Bu farw Peter Colwell, 18, yn Chwefror 2017 ar ôl cael ei saethu mewn cerbyd y tu allan i dafarn Y Llong yn Llanbedrog, ger Pwllheli.

Yn gynharach yr wythnos hon cafwyd perchennog y gwn laddodd Mr Colwell, Ben Wilson, 29, yn euog o'i ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Roedd eisoes wedi pledio'n euog i fod â gwn wedi'i lwytho mewn man cyhoeddus a cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd dan glo ddydd Iau.

Cafwyd dyn arall - Ben Fitzsimons, 23 - yn ddieuog o ddynladdiad, ond mewn gwrandawiad blaenorol cafwyd yn euog o fod â gwn wedi'i lwytho mewn man cyhoeddus.

Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Llun Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Colwell ei ladd "yn syth" gan ergyd i'w ben

Clywodd yr achos bod Wilson a Fitzsimons wedi treulio noson 5 Chwefror 2017 yn yfed gyda Mr Colwell a dau arall, gan deithio i wahanol dafarndai mewn Land Rover Discovery.

Yn ôl yr erlynydd Patrick Harrington roedd y gwn, oedd wedi ei lwytho, yn sedd flaen y cerbyd yn pwyntio tuag at y sedd gefn.

Pan ddychwelodd y grŵp i'r car, roedd Fitzsimons yn eistedd yn y sedd flaen, gyda Mr Colwell yn eistedd yng nghanol y sedd gefn.

"O fewn ychydig o amser, cafodd y gwn ei saethu," yn ôl Mr Harrington.

Cafodd Mr Colwell ei ladd "yn syth" gan ergyd i'w ben.

Clywodd y llys hefyd nad oedd y farwolaeth yn un bwriadol na maleisus.

'Ofnadwy o esgeulus'

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands: "Damwain oedd hon, ond un roedd modd ei hosgoi.

"Peter Colwell oedd â'r anlwc i fod yn y car gyda chi ar beth ddylai fod wedi bod yn noson allan ddymunol."

Ychwanegodd bod ymddygiad Wilson tuag at ynnau yn "ofnadwy o esgeulus".

"Dydy yfed a gynnau ddim yn cymysgu. Mae gwn yn arf angheuol ac ni ddylai unrhyw un eu defnyddio ar ôl yfed sawl peint."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Colwell ei saethu mewn cerbyd y tu allan i dafarn Y Llong yn Llanbedrog

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen i'r llys ddydd Iau dywedodd tad Mr Colwell, Robert Alan Jones bod marwolaeth ei fab wedi cael effaith enfawr ar y teulu.

"Dydy fy merch ddim yn gallu cysgu ar ei phen ei hun. Mae marwolaeth Peter wedi dinistrio ein teulu," meddai.

Ychwanegodd ei fam, Fiona Brett: "Dim ond y rheiny oedd yno fydd yn gwybod yn union beth ddigwyddodd y noson honno, ond ni ddaw Peter yn ôl fyth.

"Roedd ganddo'i holl fywyd o'i flaen, ond nawr ni fydd yn cael y cyfle i gael gyrfa, cwrdd â rhywun a disgyn mewn cariad a chael ei blant ei hun."