Cynllun i adfywio cymunedau gwledig Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Dylai strategaeth newydd i adfywio cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin fod yn esiampl i awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru - yn ôl grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr lleol.
Maen nhw wedi treulio dwy flynedd yn ymchwilio i ffyrdd o wella bywyd i drigolion yng nghefn gwlad y sir.
Annog pobl ifanc i aros yn eu cymunedau yw un o'r prif resymau dros sefydlu'r tasglu, a'r nod yw adfywio ardaloedd cefn gwlad mewn sir lle mae'r boblogaeth yn heneiddio.
Mae disgwyl i fwrdd gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin gymeradwyo'r cynlluniau ddydd Llun.
50 argymhelliad
Mae'r tasglu wedi gwneud 50 o argymhellion sy'n cynnwys newid rheolau cynllunio er mwyn caniatáu datblygiadau tai ar raddfa fach mewn cymunedau gwledig.
Dywed y Cynghorydd Cefin Campbell, aelod o fwrdd gweithredol y sir sydd â chyfrifoldeb am gymunedau a materion gwledig, fod angen mwy o swyddi a chartrefi er mwyn cynyddu canran y bobl ifanc yn y sir.
Mae'r prosiect yn gobeithio helpu pobl ifanc, fel Emily, 15 oed, sy'n hoff iawn o'i chartref mewn rhan wledig o'r sir ond sy'n poeni am y dyfodol.
Dywedodd: "Rwyf wedi byw yng nghefn gwlad drwy fy oes. Rwy'n caru'r lle - mae'n rhan ohonof.
"Ond mae trafnidiaeth yn gallu bod yn anodd - does yna ddim llawer o drenau ac mae'r gwasanaethau bws yn gyfyngedig."
Mae hi'n helpu ei rhieni mewn busnes torri allweddi, ac ar hyn o bryd does ganddi ddim cynlluniau i adael, ond mae pobl ifanc yn gadael y sir.
Sir Gâr sydd â'r canran isaf o bobl ifanc rhwng 16-24 oed - 9.4% o'i gymharu â ffigwr o 11.3% ar gyfer Cymru gyfan.
Mae'r bobl sydd dros 65 oed (23.3%) yn y sir yn uwch na chyfartaledd Cymru (20.6%).
'Iaith ac amaeth dan fygythiad'
Dywedodd y Cynghorydd Campbell bod angen ystyried llacio ychydig ar y rheolau cynllunio er mwyn caniatáu datblygiadau "sensitif" mewn rhai pentrefi gwledig.
"Hefyd rydym am edrych ar adeiladau gwag - yng nghanol trefi neu hen ysguboriau a gweld os gellid eu troi yn swyddfeydd.
"Mae hefyd angen gwell darpariaeth band eang, rhywbeth sydd ei wir angen mewn ardaloedd gwledig.
"Mae ardaloedd gwledig Sir Gâr fel pob ardal wledig yng Nghymru, yn wynebu pwysau aruthrol.
"Mae'r iaith dan fygythiad, ac mae asgwrn cefn y cymunedau hyn - amaeth - hefyd dan bwysau.
"Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth yn darparu rhyw fath o fframwaith y gallai awdurdodau lleol eraill edrych arno."
Mae'r tasglu wedi treulio dwy flynedd yn ymgynghori gyda chymunedau gwledig, ac mae'r argymhellion yn cynnwys:
Defnyddio adeiladau gwag ar dir amaethyddol neu o fewn pentrefi a threfi gwledig ar gyfer busnesau newydd neu swyddfeydd;
Edrych ar ddichonoldeb codi tyddynnod newydd mewn ardaloedd gwledig;
Buddsoddi mwy mewn mannau cyflenwi trydan i geir, a lobïo'r llywodraeth i gyllido prosiect Bwcabus am gyfnod hir;
Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol;
Cynlluniau unigol ar gyfer deg o drefi gwledig - Llanymddyfri, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf, Castellnewydd Emlyn, Talacharn, Cwmaman, Llanybydder, Cydweli, Llandeilo a Cross Hands.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai gweithredu ar yr argymhellion yn "gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a'i sbarduno i weithgarwch".
Ychwanegodd Sioned Elin mai "prif achos dirywiad y Gymraeg" ydy bod pobl ifanc yn gadael Sir Gaerfyrddin "oherwydd na welant unrhyw ddyfodol iddynt eu hunain yn lleol".
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, eu bod yn siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r alwad am gynllun penodedig i helpu adfywio cymunedau gwledig.
Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd: "Rydyn ni am i bob rhan o Gymru elwa o dwf economaidd ac o ganlyniad i'n Cynllun Gweithredu Economaidd rydyn wedi penodi tri Phrif Swyddog Rhanbarthol yng Ngogledd, Canolbarth a De Orllewin a De Ddwyrain Cymru ac mae eu timau yn gweithio gyda busnesau ar draws y rhanbarthau er mwyn annog twf.
"Rydyn wedi'n hymrwymo i helpu busnesau gwledig ac amddiffyn eu dyfodol wrth i Gymru baratoi i adael yr UE.
"Mae datblygiadau economaidd cymunedau gwledig yn cael eu cefnogi'n helaeth gan arian Ewropeaidd ac mae'n bosib mai ar gyllid o'r math hwn y bydd ymadael â'r UE yn cael yr effaith fwyaf.
"Rydyn yn gweithio i baratoi ardaloedd gwledig am yr her a'r cyfleoedd sydd 'na o adael yr Undeb Ewropeaidd."
Fe alwodd Eluned Morgan, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, am gynllun economaidd ar gyfer Cymru wledig yn Chwefror 2017 - cynllun tebyg i'r rhai sy'n bodoli yn rhanbarthau dinesig Caerdydd ac Abertawe.
Dywedodd ei bod yn "gyfnod tyngedfennol" i ardaloedd gwledig gan fod Brexit yn creu cymaint o ansicrwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017