Swydd y cymhorthydd dysgu 'ddim yn un i ferched yn unig'
- Cyhoeddwyd
Nid yw dynion yn ceisio am swyddi cymhorthydd dosbarth oherwydd ei fod yn cael ei stereoteipio fel "swydd i ferched", yn ôl un sy'n gweithio yn y maes.
Dywedodd Gareth Hughes, sy'n dysgu ym Mae Colwyn, bod ei ffrindiau wedi cymryd yn wreiddiol mai "gwarchod" plant oedd ei waith.
Yn ôl adroddiad newydd, mae merched yn 28 gwaith yn fwy tebygol o gael eu cyflogi fel cymhorthydd dysgu yn y sector cynradd na dynion.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod yna "barch mawr" at staff dysgu ategol mewn ysgolion.
Mae Mr Hughes, sy'n 30 oed ac o Hen Golwyn, yn gweithio fel cymhorthydd dysgu lefel uwch yn Ysgol Bod Alaw ers naw mlynedd.
Mae'n credu bod dynion yn diystyru'r gwaith gan ddweud bod "y cyflog yn ofnadwy" a'u bod nhw "ofn" gwneud swydd sy'n cael ei gweld fel un i ferched.
"Fyddai'n anoddach i hogia' ifanc gael eu ffrindiau i barchu'r gwaith fwy," meddai.
Ond mae'n annog mwy o ddynion i ymgeisio gan fod y gwaith yn "rhoi llawer o foddhad" iddo a bod "bob diwrnod yn wahanol".
'Modelau rôl'
Mr Hughes yw'r unig ddyn o blith yr 17 o gymorthyddion dysgu sy'n gweithio yn yr ysgol.
"Mae plant angen modelau rôl gwrywaidd a benywaidd yn eu bywydau," meddai.
"Dydi pawb ddim hefo tad neu frawd wrth dyfu, felly fydda'n eu helpu i gael presenoldeb gwrywaidd yn eu bywyd."
Mae canran yr athrawon a chymorthyddion dysgu gwrywaidd wedi gostwng - o 25% yn 2005-06 i 18.8% yn 2017-18 - yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Dywedodd Mr Hughes nad yw'r cyhoedd yn deall beth yn union yw'r dyletswyddau.
Mae'n gweithio rhwng 08:30 a 18:00, gyda hanner awr am ginio, ac yn gwneud gwaith mathemateg gyda grwpiau penodol o ddisgyblion.
Yn ogystal â bod ar ddyletswydd yn ystod amser egwyl a rhoi cefnogaeth yn ystod gwersi chwaraeon.
Mae rhai cymorthyddion dysgu hefyd yn rhoi cefnogaeth un-i-un i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig.
'Angen ymchwil'
Ychwanegodd Mr Hughes bod y llwyth gwaith wedi tyfu'n "sylweddol" ond bod cyflogau cymorthyddion ddim o reidrwydd yn adlewyrchu hynny a bod nifer ag ail swydd.
Dywedodd David Evans, ysgrifennydd yr undeb NEU Cymru (National Education Union) bod angen ymchwil i ddarganfod pam bod mwy o ferched na dynion yn gwneud y gwaith.
"Efallai dylen ni wneud mwy i'w denu i'r swydd, a'u perswadio bod y gwaith yn bwysig," meddai.
"Rydym yn credu bod yna fwlch rhwng cyflogau merched a dynion mewn ysgolion sy'n golygu bod merched wedi bod ar eu colled ac mae'n destun pryder gwirioneddol. Mae gofyn i lywodraeth leol edrych ar y bwlch cyflogau a materion cydraddoldeb."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ddiweddar fe wnaethon ni'r buddsoddiad unigol mwyaf o £24m mewn addysg proffesiynol athrawon a byddwn yn cyflwyno Safonau Proffesiynol ar gyfer cymorthyddion dysgu yn fuan fydd yn cefnogi datblygiad pob cymhorthydd dysgu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018