Gwahardd rhieni o fabolgampau ysgol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol gynradd PentrebaneFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llythyr ei yrru i'r rhieni wythnos ddiwethaf

Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi penderfynu gwahardd rhieni rhag mynychu cystadlaethau mabolgampau yn dilyn honiadau o "ymddygiad gwael" gan rai oedolion.

Mae'r BBC wedi gweld llythyr gan bennaeth Ysgol Gynradd Pentrebane, Sheena Duggan, gafodd ei yrru i rieni yn dilyn mabolgampau'r ysgol wythnos ddiwethaf.

Yn y llythyr mae Mrs Duggan yn honni bod athrawon wedi gorfod delio ag ymddygiad "bygythiol" a bod rhai oedolion wedi rhegi ar aelodau staff.

Dywedodd un rhiant, oedd yn bresennol ar y diwrnod, nad oedd ef wedi sylwi ar unrhyw rieni yn ymddwyn yn ymosodol tuag at staff yr ysgol.

Ond ategodd un arall ei bod yn cefnogi safbwynt Mrs Duggan 'gant y cant' ar ôl i'w plant nhw weld rhiant yn defnyddio iaith anweddus wrth siarad âg athrawon.

Ychwanegodd Mrs Duggan yn y llythyr mai "diogelwch, hapusrwydd a lles disgyblion sydd bwysicaf" a dyna pam ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad "anodd" yma.

"Rydw i'n teimlo'n gryf nad yw staff na chwaith y disgyblion yn dod i'r ysgol er mwyn gweld y fath yma o ymddygiad gan leiafrif bach o oedolion," meddai.

Dywedodd un rhiant, sydd yn dymuno aros yn ddienw, bod sawl un yn credu ei bod hi'n "annheg" fod y rhieni i gyd yn cael eu cosbi.

"Gan fod y penderfyniad yma wedi cael ei wneud, dwi'n cymryd bod rhywbeth arbennig o ddrwg wedi digwydd, ond does gan neb dwi'n nabod unrhyw syniad beth yn union oedd hynny."

Wrth siarad gyda'r BBC fore dydd Llun dywedodd un arall o rieni'r ysgol: "Weles i ddim byd o gwbl, roedd pawb mewn hwyliau da, roedd hi'n ddiwrnod braf ac roedd pawb yn hapus, yn ymlacio, a welson ni ddim byd, dim rhegi, dim gweiddi uchel, dim byd o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae mabolgampau'r ysgol fel arfer yn cael eu cynnal ar gaeau y tu ôl i'r ysgol, sy'n cael eu rhannu gyda Ysgol Gynradd Gymraeg Coed y Gof

"Fe wnes i hyd yn oed gerdded o amgylch y cae pan oedd y plant yn cymryd rhan, a doedd dim i'w weld, felly roedd hi'n dipyn o sypreis i dderbyn y llythyr yn dweud bod rheini'n cael eu gwahardd rhag mynychu diwrnodau chwaraeon o hyd ymlaen, a dwi ddim yn meddwl bod hynny'n deg iawn am fod un neu ddau o rieni wedi codi eu lleisiau."

Dywedodd rhiant arall, a oedd eisiau aros yn anhysbys, fod dau o'u plant nhw wedi gweld rhiant yn defnyddio iaith anweddus.

"Dwi'n cefnogi Mrs Duggan gant y cant, mae'n bennaeth arbennig," meddai wrth y BBC.

"Dydw i ddim yn hapus gyda'r sefyllfa, ac mae ymddygiad y rhiant yn hollol afresymol, ac mae'n ofnadwy eu bod wedi defnyddio'r fath iaith o flaen y plant ac athrawon.

"Dwi ddim yn cytuno, er hynny, gyda gwahardd pob rhiant oherwydd mae hynny'n cosbi pawb ac nid ni sydd ar fai.

"Mae'n deg cosbi'r person a oedd yn gyfrifol, am na ddylai hi fod wedi gwneud beth wnaeth hi.

"Mae'n prifathrawes ni'n deg iawn, ac mae gennym ni flwyddyn i fynd i'r afael â hyn. Dwi'n gobeithio y bydd e wedi cael ei sortio erbyn hynny."