Ymweld â Chymru i nodi pen-blwydd trefniant datganoli

  • Cyhoeddwyd
Y Senedd yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n ugain mlynedd union ers i drefniadau datganoli ddod yn gwbl weithredol ac i nodi y pen-blwydd bydd David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan yn ymweld â Chymru ddydd Llun.

Mae disgwyl iddo ddweud fod llywodraeth San Steffan yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ystod ei daith mae disgwyl iddo ymweld â phencadlys S4C er mwyn canfod sut mae'r Sianel yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru ac ar draws y DU.

Bydd e hefyd yn ogystal ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld â disgyblion Ysgol Bro Morgannwg.

'Pwysig cydweithio â San Steffan'

Cyn ei ymweliad dywedodd Mr Lidington: "Wrth i ni gydnabod y pen-blwydd a dathlu yr hyn y mae seneddau datganoledig wedi'i gyflawni rhaid i ni hefyd edrych ar y dyfodol a gweld sut y gall llywodraethau y DU gydweithio er lles dinasyddion.

"Mae ugain mlynedd o ddatganoli wedi cryfhau cenhedloedd y DU ac wedi gwella atebolrwydd."

Ffynhonnell y llun, BBC

Dywedodd hefyd mai ei weledigaeth ar gyfer cenhedloedd y DU oedd cyrff deddfwriaethol cryf oddi fewn i'r Deyrnas Unedig.

"Ond mae cryfhau datganoli," meddai, "yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth San Steffan wrando a gweithredu. Mae'n bwysig fod Prif Weinidog newydd San Steffan yn argyhoeddi pob rhan o'r DU o fuddiannau bod yn rhan o Deyrnas Unedig gref.

"Ry'n wedi'n hymrwymo i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

"Yr iaith Gymraeg yw un o'r pethau mwyaf ry'n wedi ei etifeddu ac mae Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldeb i'w hamddiffyn a'i datblygu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: "Mae'n anodd credu bod ugain mlynedd wedi pasio ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru.

"Yn fy rôl fel Ysgrifennydd Gwladol rwyf wedi gweithio i gynyddu pwerau'r sefydliad gan wthio Deddf Cymru 2017 er mwyn trawsnewid y weinyddiaeth i Senedd sy'n deddfu.

"Rwy'n edrych ymlaen i barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bargeinion dinesig a thwf ond yn fwy pwysig hybu'r iaith Gymraeg - oherwydd wrth gydweithio mae datganoli yn dod yn realaeth go iawn."