Merch o Gymru'n ennill pasiant yn Texas
- Cyhoeddwyd
Mae merch 10 oed o Gaernarfon wedi ennill teitl Young American International Junior Miss ar ôl cynrychioli Ewrop mewn pasiant yn Texas, yr Unol Daleithiau.
Roedd Efa-Hâf yn cystadlu yn un o gategorïau iau pasiant o'r enw Young American Miss International wedi iddi ennill yn y rownd Ewropeaidd fis Tachwedd 2018.
"Dwi wedi gwirioni!" meddai ei mam, Gemma Pritchard. "'Dwi mor prowd ohoni. 'Dan ni wedi dod allan yma a wedi curo!"
Roedd 10 o ferched eraill yn ei herbyn yn y gystadleuaeth gafodd ei chynnal b'nawn Sul, 30 Mehefin.
Fel rhan o'i gwaith llwyfan roedd rhaid i Efa-Hâf wisgo gwisg oedd yn adlewyrchu ei gwlad a dewisodd ffrog felen gyda 125 o flodau cennin Pedr wedi eu gwnïo arni gan Gemma!
"Roedd hi wrth ei bodd efo'r wisg ac yn prowd iawn i gynrychioli Cymru yn honna," meddai Gemma.
"'Da ni am ddathlu efo diwrnod yn y pwll rŵan!!"
Mae Efa-Hâf wedi bod yn cystadlu mewn pasiantau harddwch ers pedair blynedd gan ennill Face of Wales yn 2015, Mini Miss European Wales 2016 a Mini Miss European 2016-2017.
Mae'r cystadlu wedi mynd â hi i Lundain, Paris, Malta, a rŵan Texas.
Yn ôl Gemma Pritchard, mae pwyslais y cystadlaethau ar hyder a chyfrannu i'r gymuned yn hytrach na harddwch yn unig erbyn hyn.
"Ugain y cant o'r sgorio sy'n mynd ar y stage work ac mae'r stage work yn cael ei farcio ar confidence: sut maen nhw'n cerdded, sut maen nhw'n cyflwyno eu hunain yn be' ma' nhw'n wisgo," meddai.
"Mae'r 80% o'r sgorio am y cyflwyniad, eu personoliaeth nhw a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud yn y gymuned. Maen nhw'n gorfod helpu efo campaigns a hel pres i wahanol elusennau."
Mae'r cystadleuwyr yn gorfod cyflwyno llyfr o'u gwaith cymunedol, cael sesiwn cwestiwn ac ateb ar y llwyfan a chyfweliad preifat o flaen y beirniad meddai Gemma.
Mae Efa-Hâf a'i chwaer, Erin, wedi codi dros £30,000 tuag at wahanol elusennau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau harddwch.
Enillodd Erin deitl Miss Charity mewn pasiant o'r enw Face of Europe and the World yn 2018 ac mae hefyd wedi ennill teitlau Face of Wales 2016 a Face of Crown & Glory 2017-2018.
Mae'r ddwy chwaer yn hel arian mewn pob math o ffyrdd - o gerdded i ben y Wyddfa, pacio bagiau mewn archfarchnadoedd, helpu i drefnu pasiantau elusen i bobl eraill a chynnal sêl cist car.
Hefyd o ddiddordeb: