Chwilio am feiciwr modur anafodd ddyn, 84, yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n chwilio am yrrwr beic modur wnaeth ffoi ar ôl gwrthdrawiad gyda dyn 84 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd John Miller ei daro ar ôl i'r gyrrwr golli rheolaeth yn honedig ar ôl codi'r beic ar ei olwyn ôl.
Mae teulu Mr Miller a thrigolion eraill yn dweud fod defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau modur yn broblem o amgylch y brifddinas.
Yn ôl yr heddlu mae un person wedi'i ddedfrydu a beiciau wedi'u meddiannu fel rhan o ymgyrch i daclo'r broblem ehangach.
Roedd Mr Miller yn cerdded adref ar hyd y palmant yn Llanrhymni pan gafodd ei daro gan feic modur oren am tua 17:15 ar 22 Mehefin.
Fe adawodd y gyrrwr y digwyddiad gan adael Mr Miller i orwedd yng nghanol y ffordd.
Fe gafodd Mr Miller ei drin gan bobl oedd yn pasio, gan gynnwys nyrs, cyn cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau i'w wyneb, ysgwydd a'i stumog.
Dywedodd ei wyres, Katie Miller: "Roedd tad-cu yn lwcus iawn fod cymaint o bobl broffesiynol yn cerdded heibio ac rydym mor ddiolchgar.
"Mae'n parhau i ddioddef oherwydd y boen ac mae wedi'i ysgwyd. Mae'n gwrthod gadael y tŷ oherwydd yr anafiadau i'w wyneb.
"Mae'r teulu cyfan yn ceisio dod ynghyd i'w wneud yn gyfforddus - ond rydym eisiau i'r sawl sy'n gyfrifol i gael ei ddal.
"Rwy'n gobeithio y bydd un o'i ffrindiau a welodd hyn yn digwydd yn camu ymlaen gyda'i enw er mwyn gwneud yn strydoedd yn fwy diogel."
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac unrhyw ddeunydd fideo o'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019