Chwistrell DNA i daclo beicwyr modur anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Beicwyr modurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Wrecsam wedi mynegi pryder am ddefnydd anghyfreithlon beiciau modur

Bydd chwistrellydd sydd ddim yn gallu cael ei olchi i ffwrdd yn cael ei ddefnyddio i geisio mynd i'r afael â beicwyr modur sy'n gwneud hynny'n anghyfreithlon.

Bydd swyddogion yn Wrecsam yn gallu defnyddio'r chwistrell DNA i adael marc anweledig ar ddillad a chroen pobl maen nhw'n eu hamau o fod yn droseddwyr.

Mae pob chwistrell â chôd unigryw sy'n gallu cysylltu unigolion neu feiciau modur at drosedd benodol.

Pe bai'n llwyddiannus fe allai gael ei ddefnyddio ar draws ardal Heddlu Gogledd Cymru.

Dangos dan olau UV

Daw wedi i drigolion Parc Caia yn Wrecsam fynegi eu pryder bod beiciau modur yn cael eu defnyddio mewn mannau anghyfreithlon yn yr ardal.

Bydd swyddogion nawr yn cael eu hyfforddi sut i ddefnyddio'r chwistrell ac yna'n ei gario ar batrôl.

Dywedodd heddlu'r gogledd nad yw'r chwistrell yn achosi unrhyw niwed, ond mae'n gadael marc sy'n ymddangos dan olau UV.

Does dim modd ei olchi i ffwrdd ac mae'r marc anweledig yn aros ar groen y person neu'r beic dan sylw am gyfnod hir.