Cyfradd ysmygu mewn plant: Diffyg gwelliant yn 'warthus'

  • Cyhoeddwyd
Emma Howard ac Anne Andrews,
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Howard (chwith) fod y cynllun gafodd ei sefydlu yn yr ysgol gan y pennaeth, Anne Andrews (dde) wedi ei chynorthwyo i roi'r gorau i ysmygu

Mae'r diffyg cynnydd yn yr ymdrech i leihau nifer y plant yn eu harddegau sy'n ysmygu yn "warthus", yn ôl ymgyrchwyr.

Yn ôl arolwg o filoedd o ddisgyblion blwyddyn 11, dydy'r canran sy'n ysmygu'n rheolaidd - tua 9% - ddim wedi gostwng ers 2013/14 - ac mae'r gyfradd ymhlith plant tlotach wedi cynyddu.

Mae Ash Cymru'n galw am fwy o driniaethau wedi eu targedu, a thriniaethau holistig.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae nifer o gynlluniau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem ac mae'r canran o "smygwyr sydd wedi eu trin yn llwyddiannus" yn cynyddu.

'Casáu popeth amdano'

I Emma Howard, 16 oed ac oedd yn arfer ysmygu'n rheolaidd, dydy'r arfer yn apelio dim bellach.

"Dwi'n ei gasáu e. Dwi'n casáu'r arogl, dwi'n casáu'r blas, dwi'n casáu popeth amdano," meddai.

Rhoddodd Emma'r gorau i ysmygu ar ôl cymryd rhan mewn cynllun yn ei hysgol, Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro, oedd yn cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ffynhonnell y llun, BBC

Fel rhan o'r cynllun, roedd grŵp o ddisgyblion blwyddyn 11 yn cael cynnyrch nicotin fel losenni a mintys yn ystod y diwrnod ysgol, yn ogystal â chefnogaeth i wrthod yr awydd i ysmygu.

"Mi oedd e'n sioc, i ddweud y gwir. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddyn nhw [staff yr ysgol] ddweud, 'edrychwch, ry' ni am eich helpu chi'," meddai Emma.

"Roeddwn i'n disgwyl iddyn nhw ddweud, 'mae 'na gosb, felly os 'ych chi'n gwneud hyn, chi'n ddrwg,' a dwi'n meddwl ei fod o'n wych bod y staff wedi ein helpu ni."

Yn ôl Emma, fe ddechreuodd hi ysmygu pan oedd hi'n 13 oed, oherwydd bod grŵp o'i ffrindiau ysgol hi'n ysmygu. Gan fod aelodau o'i theulu hefyd yn ysmygu, roedd tybaco o'i chwmpas o hyd.

Faint o blant sy'n 'smygu?

Yn ôl arolwg, roedd 9% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn ysmygu tybaco yn wythnosol, o leiaf - yr un gyfradd a'r arolwg diwethaf yn 2013/14.

Roedd cynnydd yn y gyfradd o'r rheiny o'r ardaloedd tlotaf oedd yn ysmygu'n rheolaidd ers 2013/14 o 4% i 6%.

Arhosodd y gyfradd o'r rheiny o gymunedau breintiedig ar 3% yn yr un cyfnod.

Roedd y cyfraddau uchaf o ysmygu wythnosol ymysg pobl ifanc o gefndiroedd Sipsiwn/Teithwyr Gwyn, Pacistanaidd ac Arabaidd.

Arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol 2017/18, Prifysgol Caerdydd

'Penderfyniadau oedolion'

Daeth yr ysgogiad i ddechrau'r cynllun pan symudodd yr hen ysgol, Ysgol Penfro, i'w safle newydd dan enw newydd, yn ôl y dirprwy bennaeth, Ann Andrews.

Fe wnaeth yr ysgol ddarganfod grŵp o ysmygwyr oedd ar fin symud i flwyddyn 11 ac yn awyddus i roi'r gorau iddi.

"Ro'n i'n arfer ysmygu fy hun," dywedodd Mrs Andrews.

"Mae'n anodd rhoi'r gorau iddi a phan maen nhw ym mlwyddyn 11, maen nhw bron yn 16 - mae rhai yn 16 - bydd disgwyl iddyn nhw wneud penderfyniadau oedolion.

"Dim ond cefnogaeth i wneud y penderfyniadau cywir sydd angen arnyn nhw - ni ddim o hyd yn gallu gwneud hynny ar ben ein hunain."

Angen 'mwy o weithredu'

Dyma'r math o gynllun mae Ash Cymru, yr elusen gwrth-ysmygu, yn awyddus i weld yn cael ei ddyblygu ar draws y wlad.

Mae'r elusen yn dweud eu bod yn siomedig ac wedi eu synnu gan ganlyniadau arolwg diweddaraf Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr Ash Cymru, bod angen "mwy o adnoddau" a "mwy o weithredu ar sail tystiolaeth" er mwyn "gwneud yn siŵr ein bod ni wir yn targedu ac yn mesur y cynnydd yn y cymunedau tlawd yma yn fwy rheolaidd, fel ein bod ni'n gwybod bod yr hyn ry'n ni'n ei wneud yn cael effaith".

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, fe weithion nhw gyda Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Strategol Rheoli Tybaco - sy'n cynnwys Ash Cymru fel aelod - i gyflwyno cynllun 'Byw Bywyd', i dargedu pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau ble mae ysmygu'n fwy cyffredin.

"Yn anffodus, mae ysmygu yn fwy cyffredin mewn cymunedau sydd â lefelau uwch o anfantais, ond mae system 'Helpa fi i stopio' cenedlaethol Cymru ar gael i gynnig cefnogaeth am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â chyngor i helpu ysgogi ysmygwyr i roi'r gorau iddi," meddai Christian Heathcote-Elliott o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd bod y ganran o "ysmygwyr sydd wedi eu trin yn llwyddiannus yng Nghymru" yn cynyddu'n gyson o'i gymharu â gostyngiadau yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.