Y teulu sy'n cneifio dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Elfed Jackson o Nant Ffrancon allan yn Le Dorat yng nghanolbarth Ffrainc ar hyn o bryd yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cneifio'r Byd rhwng 4 a 7 Gorffennaf.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd - roedd y tro diwethaf yn Invercargill, Seland Newydd, yn 2017. Bydd 33 o wledydd yn cystadlu eleni, gyda'r tîm o saith o gneifwyr Cymru'n obeithiol o orffen tua'r brig.
"'Da ni'n ffyddiog, a 'da ni wedi rhoi lot o waith i mewn iddo cyn dod yma, a hefyd yma allan yn Ffrainc," meddai Elfed.
Bydd y timau arferol, Seland Newydd ac Awstralia yn gryf yn y gystadleuaeth, ac mae Elfed hefyd yn rhagweld y bydd De Affrica hefyd ymysg y ffefrynnau. Mae Elfed yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau'r Byd am y degfed tro eleni.
Traddodiad teuluol
Ond nid Elfed yw'r unig gneifiwr y teulu. Mae ei wraig, Bwn, yn cneifio, a'i ferch 18 oed, Beca, hefyd.
"Roedd Beca yn dod rownd y sioeau cneifio efo ni fel teulu, ac wedyn dechreuodd hi gymryd diddordeb a dechrau gwneud ei hun adra", meddai Elfed.
Dydi Beca ddim yn cystadlu fel rhan o Dîm Cymru yn Ffrainc eleni, ond mae hi yn cystadlu mewn sioeau yng Nghymru ac yn Lloegr.
"Mi nes i gystadlu wythnos diwethaf yn Cneifio Gelert" meddai Beca, "a nes i gystadlu unwaith llynedd yng Nghorwen - dwi'n meddwl nai gario 'mlaen rŵan!"
Mae gan Bwn ac Elfed dair o ferched i gyd; Sara sy'n 30, Beca yn 18 a Moli, 16. Roedd y merched yn siŵr o ddilyn yn ôl troed eu rhieni, meddai Bwn.
"Doedd gan Beca ddim llawer o ddewis i ddweud gwir, roedd cael ei magu gennym ni'n golygu ei bod hi a'i chwiorydd yn cael eu llusgo rownd y sioeau efo ni.
"Cafodd Beca y cyfle i deithio gyda thîm Cymru ar gynllun datblygu i ogledd Iwerddon dwy flynedd yn ôl. Aeth hi yno gydag Aled o dîm Cymru, a chneifiwr proffesiynol hefyd, ac roedd hynny'n brofiad gwych iddi," meddai.
Sut mae Bwn yn teimlo am y ffaith bod ei merch yn cneifio?
"Dwi wrth fy modd ei bod hi'n gwneud. Mae hi'n gwneud lot i helpu adra, ac ma hi newydd orffen yng Nglynllifon ac wedi ei derbyn i astudio amaeth yn Aberystwyth."
Derbyn menywod?
Sut agwedd sydd 'na tuag at fenywod a merched ifanc sy'n cneifio?
"Dwi'n meddwl bod o'n iawn" meddai Bwn. "Mae o reit boblogaidd a ma' 'na lot o ferched yn gwneud bellach, yn cneifio a lapio gwlân. A ma' na fywyd cymdeithasol iach hefyd!"
Bydd Bwn a Beca yn cystadlu yn y Sioe Fawr eleni. Gan i Beca ennill yn y sioe'r llynedd mae hi'n symud i fyny o'r juniors i'r safon intermediate (sy'n agored i ddynion a merched).
Mae Beca yn cneifio gyda gwellau (teclyn llaw traddodiadol) a gyda pheiriant ac yn lapio gwlân - mae hi wedi lapio gwlân dros Gymru mewn cystadleuaeth yng Ngogledd Iwerddon.
"Dwi'm yn siŵr iawn pam nes i ddechrau cneifio i ddweud gwir" meddai Beca.
"'Nath Dad ofyn imi os o'n i isho trio rhywbryd, mi wnes i ac mi nes i fwynhau! Dwi'n mwynhau cneifio efo gwella' ac efo'r peiriant."
Oes yna ferched eraill yn gwneud?
"'Di fy ffrindiau ysgol i ddim yn gwneud ond dwi'n 'nabod lot genod eraill sy'n gwneud," meddai Beca.
Cadw'r traddodiad yn fyw
"Mae'n bwysig iawn cadw'r hen draddodiadau 'ma. Maen nhw'n cael gymaint o hwyl yn ei wneud o, ac mae'r cneifwyr fel un teulu dros y byd," meddai Elfed.
"Da ni wedi gwneud ffrindiau efo'r cystadleuwyr o wahanol wledydd. Fel mae timau yn newid, aelodau newydd yn dod ac eraill yn rhoi'r gorau, da ni'n gwneud ffrindiau newydd- ffrindiau am oes wedyn i ddweud gwir.
"Mae'r cysylltiad o drafeilio yno wedyn, ac mi fydd gan y cneifwyr ifanc 'ma ffrindiau dros y byd.
"Dwi'n angerddol am ddysgu'r traddodiadau 'ma i'n bobl ifanc, a dwi'n falch iawn bod Beca'n gwneud."
Hefyd o ddiddordeb: