Dicter Prifysgol Glyndŵr wedi i gyngor wrthod cynllun tai
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi anfon llythyr at gynghorwyr Wrecsam yn datgan eu siom ar ôl i elfennau allweddol o gynlluniau i ailwampio'r coleg gael eu gwrthod.
Cafodd saith allan o naw cais cynllunio gan y brifysgol eu cefnogi fel rhan o brosiect Campws 2025 gwerth £60m.
Ond fe wrthodwyd cynigion i werthu dau blot o dir.
Dywedodd yr is-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar, fod hynny'n "eithriadol o siomedig", gan ddweud fod gwerthu'r tir ar gyfer codi tai yn allweddol er mwyn ariannu'r prosiect.
Roedd y brifysgol eisiau gwerthu tir pori ym Mrychdyn Newydd a Rhosnesni, gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer 200 o gartrefi.
Ond ddydd Llun, fe wrthododd pwyllgor cynllunio Wrecsam y cynlluniau tai ar ôl i swyddogion priffyrdd rybuddio y byddai cynnydd "sylweddol" yn y ciwiau traffig, a bod preswylwyr yn gwrthwynebu colli man agored.
Byddai'r saith prosiect a dderbyniodd gefnogaeth y cyngor yn galluogi'r brifysgol i ddymchwel ac ailwampio cyfleusterau dysgu ar gampws Plas Coch ar Ffordd yr Wyddgrug, yn ogystal â choleg celfyddydau ar Regent Street.
Byddai mwy na 700 o ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr a gweithwyr allweddol hefyd yn cael eu creu.
Ond rhybuddiodd yr Athro Hinfelaar y byddai pobl ifanc dawnus yn cael eu colli o'r gogledd os na fyddai modd ariannu'r cynlluniau.
'Gwastraffu cyfle'
"Os nad yw ein cyfleusterau yn ddigon da, yna mae gan y myfyrwyr hyn ddigon o ddewisiadau amgen mewn prifysgolion ledled y DU," ysgrifennodd.
Ychwanegodd yr is-ganghellor fod y brifysgol "mewn sefyllfa dda" i gyflwyno apêl yn erbyn gwrthod y cynlluniau tai, gan annog y cyngor i ailystyried.
"Yn syml, mae'n anfoddhaol cymeradwyo cynigion sy'n costio arian sylweddol ac yna gwrthod cynigion sy'n helpu i'w hariannu - yn enwedig os yw'r rhain yn cyd-fynd yn dda â chynlluniau ehangach ar gyfer yr ardal," ysgrifennodd.
"Dylai hyn fod wedi bod yn 'win-win', ond mae'r cyfle hwnnw wedi'i wastraffu - am y tro."
Mae Cyngor Wrecsam wedi cael cais am sylw.
Dywedodd prif weithredwr Cyngor Wrecsam, Ian Bancroft bod "pob cais wedi'u hystyried ar wahân".
"Rydym yn gefnogol iawn o gynllun Campws 2025 Prifysgol Glyndŵr ond ni allwn adael i'r gefnogaeth hynny gael effaith neu ddylanwad ar y broses gynllunio annibynnol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019