Athletwyr Môn yn anelu am aur yng Ngemau'r Ynysoedd

  • Cyhoeddwyd
Emma Rodgers, Zach Price a Barry Edwards

Ar ôl llwyddiant twrnament pêl-droed Gemau'r Ynysoedd ar Ynys Môn yn ddiweddar, mae athletwyr yr ynys yn cychwyn i'r gemau eu hunain yn Gibraltar ddydd Gwener.

Rhwng 6 a 12 Gorffennaf, fe fyddan nhw'n cystadlu yn erbyn 23 o ynysoedd eraill mewn amryw o gampau.

Ers 1985 mae Ynys Môn wedi bod yn cystadlu yn y gemau pob dwy flynedd, a hynny mewn rhyw 18 o gampau - o'r pwll nofio, i'r caeau pêl-droed neu'r trac.

Mae tua 100 o athletwyr yn mynd draw o Fôn i Gibraltar, gan gynnwys 20 o'r tîm athletau. Yn ôl cydlynydd y tîm hwnnw, mae sawl enw i edrych allan amdanyn nhw.

'Lot o fedalau gobeithio'

Dywedodd Barry Edwards: "Mae' na sawl un o'r rhai ifanc yn dod drwodd ond dwi'n meddwl mai'r prif rai ydy Zach Price yn y 100m - sy'n cystadlu i Gymru.

"Ffion Roberts hefyd, pencampwr Cymru yn y 400m. Mae'r timau rasys cyfnewid yn enwedig.

"Mae gennym ni bobl fel Iolo Hughes, sy' wedi bod mewn sawl un o'r gemau cynt a 'di dod 'nôl 'efo medal aur ac arian.

"Mae 'na hefyd lot o dark horses, so fydd 'na lot o PBs a lot o fedalau gobeithio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hyfforddwr Barry Edwards yn gobeithio am sawl medal i dîm Ynys Môn yn y gemau

Mae'r tîm wedi paratoi ychydig yn wahanol eleni, gan gydweithio gyda Phrifysgol Bangor.

"Roedd ganddyn nhw brosiect 'efo'r fyddin ac roedd canlyniadau hynny wedi bod yn llwyddiannus felly 'da ni'n defnyddio'r union 'run prosiect ar gyfer ein hathletwyr ni," meddai Mr Edwards.

"Maen nhw'n paratoi bob nos yn mynd i fath 'efo dŵr berwedig fel math o heat acclimation.

"'Da ni hefyd wedi paratoi'r hyfforddwyr, yr athletwyr a'u rhieni o ran be' i fwyta, pa mor dda maen nhw'n cysgu a hefyd pethau fel fitness testing."

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Mair Roberts a Catrin Powell Jones, dwy o athletwyr Tîm Ynys Môn

Dywedodd Ffion Mair Roberts, fydd yn cystadlu yn y ras 400m: "Nes i fynd allan i hyfforddi yn Tenerife am bythefnos ym mis Ebrill, jyst i ddod i arfer 'efo'r tymheredd ac ymarfer mewn tymheredd poeth fel mae'n mynd i fod yn Gibraltar.

"Maen nhw'n disgwyl iddi fod o leia' tua 27C neu 28C, felly andros o boeth!"

'Mwynhau a chynrychioli Ynys Môn'

Mae Catrin Powell Jones, fydd yn rhedeg yn y ras 200m, yn "edrych 'mlaen i gael mwynhau fy hun a chynrychioli Ynys Môn".

"Mae'r paratoadau wedi bod yn mynd yn dda, jyst anodd ffitio bob dim mewn 'efo arholiadau," meddai.

"Ond 'da ni wedi llwyddo i wneud bob dim so fydd o'n iawn dwi'n meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Kate Lemon yn cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd yn 1993 pan yn 17 oed

I Kate Lemon, chwaraewr badminton o Falltraeth, bydd y daith i Gibraltar yn dod ag atgofion yn ôl.

"Nes i gychwyn chwarae badminton pan o'n i'n saith a nes i fynd i Gemau'r Ynysoedd yn 1993 pan o'n i'n 17. Wedyn nes i ddim chwarae llawer o gwbl ar ôl priodi a chael plant," meddai.

"Ond nes i ddod 'nôl i chwarae rhyw 18 mis yn ôl. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn i'n chwarae yn y gemau eto!

"Dwi'm cystal ag o'n i pan o'n i'n 17 dwi'n siŵr ond dwi'n gobeithio rhoi go arni!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n draddodiad bod pob tîm yn casglu dŵr yn lleol i fynd i'r gemau

Ym mis Mehefin, Môn wnaeth gynnal twrnament pêl-droed Gemau'r Ynysoedd oherwydd diffyg cyfleusterau yn Gibraltar, gan roi hwb i'r gobeithion o ddenu'r gemau yn 2025.

Dywedodd Rheolwr Tîm Ynys Môn, Emma Rogers, bod y gystadleuaeth wedi profi gallu'r ynys i "drefnu cystadleuaeth heb drafferth felly gobeithio bydd hynny'n helpu lot".

"Mi fyddwn ni'n cael cyfarfod 'efo'r pwyllgor pan fyddwn ni allan yn Gibraltar - ac wedyn fyddwn ni'n llofnodi ar y llinell flwyddyn nesa' gobeithio!" meddai.

Cyn cychwyn am Gibraltar bu'r tîm yn ymweld â Ffynnon Seiriol ym Mhenmon, a hithau'n draddodiad i bob ynys fynd â dŵr lleol hefo nhw i'r seremoni agoriadol.