Cyhoeddi adolygiad i ystyried pwerau Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Theresa May y dylai cryfhau'r Undeb fod yn "flaenoriaeth" ar gyfer y Prif Weinidog nesaf

Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad i ystyried pwerau Swyddfa Cymru.

Yn ystod araith yn Yr Alban nos Iau, fe wnaeth y Prif Weinidog Theresa May bwysleisio pwysigrwydd undeb y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr adolygiad, fydd yn edrych ar y ffordd mae adrannau Llywodraeth y DU yn delio â datganoli, ei gyhoeddi yn ystod yr araith ac mae disgwyl i bwerau Swyddfa Cymru fod ar yr agenda.

Ond mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi rhybuddio mai'r peth olaf sydd ei angen nawr yw "twf mewn gwladychiaeth".

Cafodd yr adran, sydd dan arweiniad Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, ei sefydlu pan gafwyd datganoli 20 mlynedd yn ôl.

Mae ganddi lawer llai o bwerau na Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, sy'n rheoli materion fel iechyd ac addysg.

Mae Swyddfa Cymru yn dweud eu bod yn gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU er mwyn cynrychioli buddiannau Cymru.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns bod cael llais cryf o fewn Cabinet y DU ar gyfer Cymru yn "hanfodol"

Dywedodd Mrs May: "Mae sawl adolygiad wedi bod i sut yn union mae datganoli yn gweithio.

"Ond dydyn ni heb feddwl yn ddigon caled ynglŷn â sut y mae'r undeb yn gweithio - a sut y gallwn ni sicrhau, er ein bod ni'n parchu datganoli, nad ydyn ni'n anghofio dyletswydd sylfaenol Llywodraeth y DU i fod yn lywodraeth ar gyfer pob rhan o'r DU."

Fe wnaeth Mrs May gadarnhau mai'r Arglwydd Dunlop, cyn-weinidog yn Swyddfa'r Alban, fydd yn cadeirio'r adolygiad diweddaraf.

Fe allai olygu bod adrannau yn Whitehall yn gweithio'n agosach gyda Swyddfa Cymru yn y dyfodol.

Ond mynnodd un ffynhonnell nad oedd hyn yn arwydd o Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

'Blaenoriaeth allweddol'

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, dywedodd Mr Cairns bod cael llais cryf o amgylch bwrdd Cabinet y DU ar gyfer Cymru yn "hanfodol".

"Ni fydd yr adolygiad hwn yn ystyried unrhyw newidiadau cyfansoddiadol, ond bydd yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod strwythur Llywodraeth y DU yn cefnogi ac yn cryfhau'r undeb.

"Drwy ein gwaith partneriaeth ar y bargeinion twf a dinas, mae Llywodraeth y DU wedi arloesi gweithio ar draws pob lefel o lywodraeth i ddarparu orau i gymunedau Cymru.  

"Disgwyliaf i'r Prif Weinidog newydd ystyried canfyddiadau yr adolygiad hwn a gweithredu arnynt fel blaenoriaeth allweddol yn y tymor newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod Theresa May yn "hwyr iawn" yn ystyried dyfodol y Deyrnas Unedig

Dywedodd Mrs May y dylai cryfhau'r undeb fod yn flaenoriaeth ar gyfer y Prif Weinidog nesaf, a bod Boris Johnson a Jeremy Hunt yn "gefnogol o'r adolygiad".

Mae llywodraeth Mrs May yn "hwyr iawn yn dechrau trafodaeth ar ddyfodol y Deyrnas Unedig", yn ôl Mr Drakeford.

"Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio â Llywodraeth Yr Alban, wedi cynnig sawl argymhelliad i ddangos sut byddai modd i'r DU barhau i weithio'n llwyddiannus.

"Yn sicr dyw hynny ddim yn cynnwys ceisio cryfhau organau llywodraeth ganolog yma yng Nghymru neu unrhyw ran arall o'r DU."