Adolygiad llywodraeth i 'ystyried pwerau Swyddfa Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Theresa MayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ornest i olynu Theresa May yn dod i ben ar 23 Gorffennaf

Mae BBC Cymru yn deall y bydd adolygiad yn ystyried a ddylai Swyddfa Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth San Steffan, gael mwy o bwerau.

Fe fydd Theresa May yn pwysleisio pwysigrwydd undeb y Deyrnas Unedig mewn araith yn Yr Alban ddydd Iau.

Mae disgwyl iddi gyhoeddi adolygiad o'r ffordd y mae adrannau Llywodraeth y DU yn delio â datganoli.

Y disgwyl yw y byddan nhw'n ystyried a ddylai Swyddfa Cymru - sydd ar hyn o bryd ag ychydig iawn o bwerau - gael mwy o rôl wrth ddylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth am Gymru.

Mwy o ddylanwad?

Cafodd yr adran, sydd dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, ei sefydlu pan gafwyd datganoli 20 mlynedd yn ôl.

Mae ganddi lawer llai o bwerau na Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, sy'n rheoli materion fel iechyd ac addysg.

Mae Swyddfa Cymru yn dweud eu bod nhw'n gweithio gydag adrannau eraill Llywodraeth y DU er mwyn cynrychioli buddiannau Cymru.

Fe fydd yr Arglwydd Dunlop, cyn-weinidog yn Swyddfa'r Alban, yn cadeirio'r adolygiad diweddaraf yn edrych ar sut all adrannau llywodraeth gydweithio er mwyn sicrhau bod datganoli'n gweithio.

Mae disgwyl y bydd yn edrych ar rannau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â rôl y gweinidogion cabinet.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Cairns wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2016

Fe allai olygu bod adrannau yn Whitehall yn gweithio'n agosach gyda Swyddfa Cymru yn y dyfodol.

Ond mynnodd un ffynhonnell nad oedd hyn yn arwydd o Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Os oes rhai gwleidyddion yn credu bod hyn yn fygythiad iddyn nhw, bydden ni'n gofyn pam bod hynny'n fygythiad," meddai.

"Dyw Alun ddim yn poeni am blesio gwleidyddion mwyach. Pobl, nid gwleidyddion, yw beth mae Alun yn poeni amdanynt."

Yn siarad yn Wrecsam ddydd Iau, dywedodd Mr Cairns ei fod am weld y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a busnesau yng Nghymru yn cryfhau.

"Dyw hyn ddim am gystadlu yn erbyn Llywodraeth Cymru," meddai. "Mae hyn am weithio'n agos, a'r ddwy lywodraeth yn derbyn eu cyfrifoldeb."

Yn ei haraith yn Yr Alban bydd Mrs May yn dweud bod datganoli wedi bod yn arwydd o gryfder y Deyrnas Unedig yn hytrach na gwendid.

Fe fydd hi hefyd yn dweud y dylai ei holynydd fel prif weinidog barhau i ystyried cryfhau'r undeb yn flaenoriaeth.

Mae disgwyl i'r ornest arweinyddol i'w holynu fel arweinydd y blaid Geidwadol, ac fel prif weinidog, ddod i ben ar 23 Gorffennaf.