Gorchymyn talu dyled rhent Parc yr Arfau i'r Gleision

  • Cyhoeddwyd
Parc yr ArfauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Gleision ystyried symud o Barc yr Arfau ym mis Chwefror 2018

Mae Gleision Caerdydd wedi derbyn gorchymyn statudol i dalu rhent sy'n ddyledus am chwarae ym Mharc yr Arfau.

Mae Clwb Athletau Caerdydd (CAC) yn dweud eu bod wedi cyflwyno'r gorchymyn am ffigwr sydd heb ei ddatgelu.

Gallai peidio â thalu'r ddyled o fewn 21 diwrnod olygu camau cyfreithiol posib yn erbyn y Gleision.

Mae'r Gleision wedi cael cais am ymateb.

Yn Chwefror 2018, dywedodd y Gleision eu bod yn ystyried symud o Barc yr Arfau ar ôl methu a dod i gytundeb i ymestyn y brydles ymhellach na 2022.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Alun Jones fod y ffigyrau ariannol diweddaraf yn achos pryder ar ôl datgelu ymrwymiad i dalu isafswm o £412,661 am y cyfnod sy'n weddill ar y cytundeb.

Dywedodd bwrdd rheoli CAC mewn cyfarfod ym mis Chwefror y bydden nhw'n cymryd camau cyfreithiol ar ddiwedd mis Mai os nad oedd y Gleision wedi setlo ar "rhent dyledus sylweddol".

Dywedodd datganiad gan CAC: "Mae Clwb Athletau Caerdydd yn cydnabod y cyfnod ariannol anodd o ran rygbi rhanbarthol yng Nghymru, ac rydym wedi ceisio gwneud ymdrech i gydweithio gyda Gleision Caerdydd o ran y rhent sy'n ddyledus.

"Ar ôl i drafodaethau fynd yn hysb, mae CAC wedi cyflwyno gorchymyn statudol o ran yr holl arian sy'n ddyledus er mwyn diogelu buddion ein haelodau."