Fandaliaeth yn taro cynllun Nextbike yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nextbike mae cynnydd wedi bod yn nifer y beiciau sy'n cael eu difrodi

Wrth i nifer o bobl yng Nghaerdydd gwyno nad oes digon o feiciau Nextbike mewn gorsafoedd yn y ddinas, mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yn dweud eu bod yn cael trafferth gyda fandaliaeth.

Cafodd gwasanaeth rhannu beiciau Nextbike ei lansio yn y brifddinas ym mis Mawrth 2018, ac mae'n rhan o strategaeth y cyngor i droi Caerdydd yn un o ddinasoedd seiclo gorau'r DU.

Ers hynny mae'r cwmni'n dweud bod dros 500,000 o deithiau wedi'u gwneud ar y beiciau hyd yn hyn, a 50,000 o bobl wedi cofrestru i'w defnyddio.

Mae'r cwmni yn cynyddu nifer y gorsafoedd a beiciau sydd ar gael i ddefnyddwyr yn achlysurol, wrth i'r gwasanaeth dyfu mewn poblogrwydd.

Ond mae'n debyg bod cynnydd mewn fandaliaeth wedi bod yn y brifddinas, sy'n effeithio ar nifer y beiciau sydd ar gael i gwsmeriaid.

'Sbwylio fe i bawb arall'

Yn ôl Nextbike mae nifer o feiciau wedi cael eu difrodi neu eu dwyn dros y misoedd diwethaf, ac mae aelodau o'u tîm cynnal a chadw wedi cael eu bygwth ac wedi dioddef ymosodiadau ar y stryd.

Dywedodd y cwmni y byddai'r tîm yn arfer trwsio tua 15 o feiciau pob dydd, ond bod y ffigwr wedi cynyddu at ryw 60 bellach.

Nextbike
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwynion bod gorsafoedd Nextbike yn aml yn wag, a bod y beiciau sydd yno angen eu trwsio

Un sydd wedi ei siomi gyda'r sefyllfa yw Geraint Chinnock, sy'n defnyddio'r gwasanaeth pan yn gweithio yng Nghaerdydd.

"Dwi wedi cael fy nal mas sawl gwaith yn meddwl 'dwi am adael nawr, nôl beic a bant a fi', a fi 'di cyrraedd gorsaf a does dim un 'na," meddai.

"Yn wreiddiol o'n i'n meddwl 'rhaid bod nhw'n really poblogaidd a fi jest wedi colli mas', ond yn ddiweddar fi 'di sylwi, yn enwedig lle fi'n byw yn Grangetown, bod dim beics 'na o gwbl.

"Mae'n gynllun ffantastig, ac i bobl ddifrodi'r beics a thanseilio'r holl beth, mae'n drist ac yn fy ngwylltio i.

"Llond llaw o bobl ydyn nhw siŵr o fod, ond maen nhw'n ei sbwylio fe i bawb arall, a byddai'n drist gweld yr holl system yn dod i ben oherwydd pobl sydd ddim yn gwybod sut i barchu pethau."

'Siomedig'

Dywedodd Sara Jones o elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans Cymru ei bod yn drueni bod lleiafrif wedi penderfynu trin y gwasanaeth yn y fath ffordd.

"Mae'n siomedig. Dyw e ddim yn beth neis clywed fod gwasanaeth mor ffantastig â hyn yn cael ei effeithio gan nifer fach o bobl," meddai.

"Tase Nextbike a'r gymuned yng Nghaerdydd yn gallu dod at ei gilydd a ffeindio ffordd o edrych ar ôl y gwasanaeth a gwneud yn siŵr ei fod yn parhau i'r dyfodol, byddai hynny'n beth grêt i weld."