Clinig hunaniaeth rhywedd i agor ym mis Medi, wedi oedi
- Cyhoeddwyd
Bydd Gwasanaeth Rhywedd newydd Cymru yn dechrau gweld ei gleifion cyntaf ym mis Medi.
Ar hyn o bryd mae cleifion trawsryweddol yn gorfod teithio i Lundain am wasanaeth, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cael ei feirniadu oherwydd yr oedi cyn agor clinig rhywedd yng Nghymru.
Roedd y gwasanaeth i fod i ddechrau ym mis Ebrill.
Ond yn sgil yr oedi ysgrifennodd Cynghrair Cydraddoldeb Cymru - grŵp ymgyrchu dros hawliau pobl trawsryweddol - at y llywodraeth i fynegi eu siom a'u pryderon am yr effaith ar iechyd meddwl cleifion.
Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ddydd Llun y byddai'r gwasanaeth - a fydd wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd - yn dechrau ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019