Rheilffyrdd Cymru wedi'u tanariannu ers 'amser hir iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi tanariannu rheilffyrdd Cymru ers "amser hir iawn", yn ôl arbenigwr ar y diwydiant trafnidiaeth.
Dywedodd yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd wrth ASau bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru heb gael yr un cyfleoedd â'r rheiny dros y ffin.
Mae'r Athro Barry yn tybio mai llinell Cymoedd de Cymru yw'r rheilffordd sy'n cael ei "ddibrisio" fwyaf yn y DU.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn buddsoddi mwy o arian nag erioed yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.
Fe wnaeth yr Athro Barry, oedd yn gyfrifol am gynnig y cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru, ei sylwadau o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.
"Rydyn ni angen bod yn gwario £1bn yn ychwanegol ar isadeiledd trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru am ei fod wedi ei ddibrisio ers 30 neu 40 mlynedd," meddai.
"Mae'r dystiolaeth yna - rydyn ni'n gwybod nad yw rheilffyrdd Cymru wedi cael yr un cyfleoedd yn nhermau arian gan Lywodraeth y DU ers amser hir iawn.
"Os ydych chi'n dibrisio rhywbeth, mae'n tanberfformio. Mae'n costio mwy i redeg, yn denu llai o deithwyr ac angen mwy o gymorthdaliadau."
Ychwanegodd y dylid cau rheilffyrdd fel un y Cymoedd "os nad ydych chi'n mynd i fuddsoddi ynddo".
Dywedodd wrth y pwyllgor hefyd bod "system israddol" mewn lle ar gyfer gwneud penderfyniadau ar drafnidiaeth yng Nghymru.
'£1.5bn erbyn 2024'
Yn ymateb i'r sylwadau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU ei bod yn buddsoddi mwy o arian nag erioed yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.
"Mae cyllid Network Rail ar gyfer y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru rhwng 2019 a 2024 dros £1.5bn," meddai.
"Bydd y buddsoddiad yma yn adeiladu rheilffordd mwy a gwell i Gymru, gan ddarparu teithiau byrrach i deithwyr ar y trenau newydd, mwyaf blaengar."
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi ymrwymo £125m ar gyfer gwneud gwelliannau i linell y Cymoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019