Pum munud gyda'r animeiddiwr Efa Blosse-Mason
- Cyhoeddwyd
Mae Efa Blosse-Mason o Gaerdydd newydd ennill gwobr am ei hanimeiddio gan y Royal Television Society.
Hi yw enillydd gwobr am yr animeiddiad gorau gan fyfyriwr israddedig am ei ffilm fer Earthly Delights yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr 2019 - ffilm sy'n cynnwys un o'i hoff bethau: malwod.
Pam animeiddio?
O'n i am astudio celf yn y brifysgol, ond wedyn ces i brofiad gwaith yn gweithio ar animeiddio, a nes i newid y cwrs, bythefnos cyn ei ddechrau, a gwneud animeiddio yn lle. Dwi felly wedi'i wneud ers pedair blynedd, yn UWE Bristol. Dwi newydd raddio.
Sut fath o animeiddio?
Fi'n darlunio, felly'n 'neud animeiddio 2D. Fi'n 'neud e ar y cyfrifiadur, ond fi'n hefyd yn defnyddio pastels olew.
Fi hefyd yn 'neud cut-out - torri siapiau mas - a stwff gyda gwydr - tywod neu inc ar wydr.
Am beth mae'r ffilm 'Earthly Delights'?
Mae'n gomedi tywyll am dwy arddwraig sy'n byw drws nesa' i'w gilydd. Mae un yn hoffi popeth i fod yn deidi, a ma'r llall yn fwy o mother earth ac yn hoffi popeth i fod yn wyllt.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dwi'n hoffi garddio felly mae'n siŵr dyna lle ddaeth y syniad.
A ma' fe gyda lot o falwod ynddo fe... Dwi'n hoffi malwod - ma' 'da figiant African snails- a dwi'n eu rhoi yn lot o fy ngwaith.
Beth sydd ar y gweill?
Dwi wedi cael arian gan Ffilm Cymru i greu ffilm arall, a fi'n ei 'neud e gyda chwmni o'r enw Winding Snake.
Enw'r ffilm yw Cwch Deilen, a ma' fe'n stori cariad rhwng dwy fenyw.
Ma' fe'n magical a mystical am nhw yn creu cwch mas o ddeilen sy'n drosiad ar gyfer eu perthynas.
Ni wedi recordio Catrin Stewart a Sara Lloyd-Gregory yn gwneud y lleisie. Fi sgwennodd y sgript, a nawr fi'n gweithio ar yr animeiddio a'i ffitio fe rownd y lleisie.
Ond does yna ddim lle i falwod yn y ffilm yma, yn anffodus!
Fi'n rili mwynhau gwneud hynny ar hyn o bryd. Un fer, dim ond saith munud ydi hi - ond ma' fe'n eitha' lot o waith i 'neud saith munud. Mae fe'n swydd 9-5, ac er bod gen i tan ddiwedd Hydref, 'dyw hwnna ddim rili'n amser hir iawn!
Wedyn byddwn ni'n ei anfon i wyliau ffilmiau, a falle fydd e ar S4C neu rywbeth - pwy a ŵyr!
Byddwn i'n hoffi g'neud rhyw fath o raglen neu feature film rhyw dydd - dyna'r freuddwyd.
Gawn ni weld.
Hefyd o ddiddordeb: