Neil McEvoy yn poeni am gael ei wahardd am bum mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil McEvoy bod ailymgeisio i ymuno â'r blaid yn parhau'n "bosibilrwydd cryf"

Mae cyn-AC Plaid Cymru, Neil McEvoy yn dweud ei fod wedi tynnu ei gais i ailymuno â'r blaid yn ôl am ei fod yn ofni cael ei ddiarddel am bum mlynedd.

Roedd AC Canol De Cymru i fod i fynychu gwrandawiad ynglŷn â'i gais nos Fercher, ond fe dynnodd y cais yn ôl cyn hynny oherwydd yr hyn a alwodd yn ddiffyg "cyfiawnder naturiol" a "phrosesau cywir".

Dan reolau'r blaid, os ydy cais person sydd wedi'i wahardd am flwyddyn i ailymuno â'r blaid yn cael ei wrthod, dydyn nhw yna ddim yn gallu gwneud cais arall am bum mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod y system yn "gadarn a theg".

Mae'r broses mewn lle i atal pobl rhag ailymgeisio dro ar ôl tro heb unrhyw newid yn yr amgylchiadau.

'Gadael aelodau i lawr'

Dywedodd Mr McEvoy ddydd Iau: "Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn beth anrhydeddus i mi i'w wneud i fynd mewn i gyfarfod panel yn gwybod y byddwn i'n cael fy niarddel am bum mlynedd.

"Rwy'n teimlo y byddai hynny'n gadael aelodau Plaid i lawr, a byddai wedi galluogi camgymeriad enfawr i gymryd lle hefyd."

Fe wnaeth Plaid Cymru ddiarddel Mr McEvoy yn 2018 yn dilyn honiadau ei fod wedi ymddwyn yn aflonyddol yng nghynhadledd y blaid.

Roedd eisoes wedi cael ei wahardd o grŵp y blaid yn y Cynulliad.

'Brwydro ryw dro arall'

Mae Mr McEvoy yn bwriadu bod yn ymgeisydd yn Etholiad y Cynulliad yn 2021, ac mae'n awyddus i gynrychioli Plaid Cymru yn etholaeth y Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford, sef Gorllewin Caerdydd.

Byddai gwaharddiad pum mlynedd wedi ei atal rhag gwneud hynny.

Er ei benderfyniad ddydd Mercher, dywedodd Mr McEvoy bod ailymgeisio i ymuno â'r blaid yn parhau'n "bosibilrwydd cryf".

"Rydych chi'n rhedeg i ffwrdd er mwyn brwydro ryw dro arall," meddai.

Dywedodd hefyd ei fod wedi cynnig gosod amodau ar ei aelodaeth, gan ychwanegu y byddai'n fodlon gyda bron unrhyw amod "o fewn rheswm".