Ailagor ysgol bentref ar Ynys Môn fel canolfan gymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae hen ysgol bentref ar Ynys Môn wedi cael ei hailagor fel canolfan i'r gymuned.
Fe wnaeth Llanddona golli ei hysgol gynradd yn 2014.
Ond daeth pwyllgor cymunedol at ei gilydd i sefydlu'r ganolfan i gymryd lle canolfan flaenorol oedd wedi dechrau heneiddio.
"Mae gwaith eithriadol wedi mynd mewn i be 'da chi'n weld heddiw," meddai'r cynghorydd lleol, Carwyn Jones.
'Calon i'r gymuned'
"Mae'r ysgol yma'n golygu cymaint i gymaint o bobl ac fe fyddai wedi bod yn drychineb pe bai wedi cael ei werthu a thai wedi eu codi yna.
"Mae'n mynd i fod yn galon i'r gymuned am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd hefyd fod y ganolfan newydd yn gyfle i'r gymuned ac y gallai siop a swyddfa bost gael eu lleoli yno.
"Os nad oes gennym ni ganolfannau cymunedol, byddan ni'n colli cymunedau am byth," meddai.
"Mae hwn yn rhoi cyfle i Landdona. Bydd yn gadael i ni adeiladu cymuned wydn."
'Llawn emosiwn'
"Dwi wrth fy modd ond llawn emosiwn," meddai Rhian Hughes, cadeirydd y pwyllgor fu'n gweithio i sefydlu'r ganolfan.
"Mae rhai o hen athrawon yr ysgol yma, ac fe welodd cwpl ohonom ni Mrs Jones a Mrs Hughes, a jyst dechrau crio!
"Dydy pentrefi bach eraill ddim yn cael cyfleoedd fel 'ma. Mae gennym ni gynllun peilot yma allai fod o ddefnydd i bentrefi eraill yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2014