Ysgol gynradd Llanddona yn cau yn yr hâf

  • Cyhoeddwyd
Ysgol llanddona
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Gynradd Llanddona yn cau ddiwedd yr haf

Bydd ysgol gynradd mewn pentref gwledig ar Ynys Môn yn cau yn yr hâf wedi i Lywodraeth Cymru gytuno gyda phenderfyniad y cyngor sir.

Yn dilyn "ystyriaeth ddwys" mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis wedi cefnogi'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Llanddona a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Dim ond 10 o ddisgyblion llawn amser sydd yn mynychu'r ysgol.

Bydd yr ysgol yn cau ddiwedd tymor yr haf a'r disgwyl yw y bydd y disgyblion yn mynd i Ysgol Llangoed.

Penderfyniad Trist

Dywedodd arweinydd y cyngor sir a'r deilydd portffolio addysg, y cynghorydd Ieuan Williams: "Daethom i'r penderfyniad i gau Ysgol Llanddona gyda thristwch mawr, ond mae'n rhaid i ni weithredu er lles buddiannau'r ynys gyfan.

"Mae niferoedd disgyblion yn disgyn ac mae yna nifer o leoedd gwag mewn nifer o ysgolion ... ni all y sefyllfa bresennol barhau."

Dywedodd cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Môn, Dr Gwynne Jones, bod yr awdurdod yn colli tua £400,000 y flwyddyn oherwydd lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd.

Meddai: "Gall ein gwasanaeth addysg, ein hysgolion na'n disgyblion ddim fforddio colli'r fath arian."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau caled ynglŷn â rhesymoli ysgolion a dyfodol darpariaeth addysg i'r dyfodol yn disgyn ar awdurdodau lleol."

Roedd Gweinidog Addysg Cymru yn fodlon y byddai cynigion y cyngor sir yn "cynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal" ac yn lleihau llefydd gwag ac yn ffordd o arbed arian.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol