Menter gymunedol yn casglu digon o arian i brynu tafarn

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y PluFfynhonnell y llun, Sion Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn ger cartref David Lloyd George, cyn-Brif Weinidog y DU

Mae menter gymunedol oedd yn ceisio codi digon o arian i sicrhau dyfodol tafarn yng Ngwynedd wedi llwyddo i gyrraedd eu targed ariannol.

Ers 200 mlynedd, mae Tafarn y Plu wedi bod yn ganolbwynt pentref Llanystumdwy ac roedd pryderon ynglŷn â'i dyfodol.

Ar ôl methu ag ennyn diddordeb prynwyr pan aeth y dafarn ar werth yn 2015, fe wnaeth Sion Jones a'i gyfoedion ddechrau'r fenter ym Medi 2018 gyda'r bwriad o brynu'r dafarn.

Dywedodd datganiad gan y fenter: "'Da ni wedi neud o!! Mae Pwyllgor Menter y Plu yn hynod o falch o gyhoeddi ein bod ni wedi codi dros £80,000 tuag at y Fenter.

Agor cyn diwedd y mis

Pan ddechreuwyd y fenter y llynedd y prif nod oedd cadw'r dafarn yn ganolfan gymunedol a "sicrhau y bydd cymeriad unigryw a Chymreig y dafarn yn ddiogel at y dyfodol".

Ychwanegodd y datganiad: "Dyma oedd y targed i ni fedru derbyn £120,000 o arian cyfatebol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn dilyn ein cais llwyddiannus.

"Mae hyn yn golygu bydd gyda ni ddigon o arian i brynu Tafarn y Plu," meddai.

Y gobaith yw bydd y dafarn yn agored erbyn diwedd y mis.