Llywodraeth yn ystyried cais i godi ysgol Gymraeg newydd

  • Cyhoeddwyd
safle posib
Disgrifiad o’r llun,

Mae cais cynllunio'r cyngor ar gyfer codi ysgol newydd i 480 o blant

Fe fydd yna oedi pellach cyn i gais i godi ysgol Gymraeg newydd yn Llanelli gael ei ystyried, wrth i'r mater gael ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Gâr am godi ysgol £9.1m ar Gaeau Llanerch yn y dref gan fod yr ysgol Gymraeg bresennol, Ysgol Dewi Sant, yn rhy fach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais i ystyried ai nhw neu bwyllgor cynllunio y sir ddylai fod â'r gair olaf wrth roi caniatâd cynllunio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn poeni am danciau dŵr o dan y caeau a cholli mannau gwyrdd

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ymhen 21 diwrnod a ydynt am ymyrryd neu beidio.

Byddai'r ysgol newydd yn addysgu 420 o ddisgyblion cynradd a 60 o ddisgyblion meithrin.

Mae'r cyngor yn dweud nad yw safle presennol, Ysgol Dewi Sant, yn addas i bwrpas wrth i ddisgyblion gael gwersi mewn ystafelloedd dros dro.

Mae ymgyrchwyr lleol yn dweud eu bod am gadw'r caeau chwarae ac y dylid dod o hyd i safle arall.

Fis Gorffennaf y llynedd fe wnaeth arolygydd cynllunio annibynnol wrthod cais gan ymgyrchwyr i ddynodi'r safle yn faes i'r pentref - cais fyddai wedi atal adeiladu'r ysgol newydd.