Gwrthod cais fyddai wedi atal ysgol Gymraeg Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Arwydd ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr yn poeni am danciau dŵr o dan y caeau ac am golli mannau gwyrdd

Mae arolygydd cynllunio annibynnol wedi gwrthod cais gan ymgyrchwyr fyddai wedi atal ysgol Gymraeg newydd rhag cael ei hadeiladu yn Llanelli.

Bwriad Cyngor Sir Gaerfyrddin ydy adeiladu ysgol newydd Dewi Sant ar gaeau Llanerch, ond roedd rhai'n gwrthwynebu oherwydd pryder am golli ardaloedd gwyrdd.

Cafodd cais gan wrthwynebwyr i ddynodi'r safle yn faes i'r pentref ei wrthod yn unol â chanfyddiad adroddiad arolygwyr cynllunio gafodd ei benodi gan y sir.

Mae'n golygu y gallai'r cais cynllunio ar gyfer yr ysgol £9m symud ymlaen.

Mewn neges ar eu tudalen Facebook mae'r ymgyrchwyr yn dweud y byddant yn ystyried gwneud cais am adolygiad barnwrol, gan ychwanegu "mae'r frwydr i achub Llanerch yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cais cynllunio'r cyngor ar gyfer yr ysgol nawr yn gallu parhau

Mae'r cyngor yn dweud nad yw safle presennol Ysgol Dewi Sant yn addas i'w bwrpas, gyda disgyblion yn cael gwersi mewn ystafelloedd dros dro.

Maen nhw'n dweud y bydd y safle newydd yn cynnig cyfleusterau i ddisgyblion ac i'r gymuned, gan gynnwys cae chwaraeon a maes parcio i bobl leol.

"Gallwn nawr symud ymlaen gyda'n cynlluniau am ysgol newydd i Dewi Sant fydd o fudd i addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanelli gyfan," meddai Glynog Davies, y cynghorydd a chyfrifoldeb am addysg.

"Mae hon yn ysgol sy'n flaenoriaeth i ni gan nad yw'r adeiladau presennol yn addas i'w pwrpas a dydyn nhw ddim yn cyrraedd y safonau rydyn ni am eu sicrhau i'n disgyblion a staff dysgu."

Gwrthwynebiad

Gobaith ymgyrchwyr oedd rhoi statws arbennig i'r caeau fel adnodd i'r gymuned.

Roedd pryder am golli ardaloedd gwyrdd a hefyd am danciau tanddaearol ar y safle - sy'n storio dŵr a charthffosiaeth ar adegau o law trwm - a'r posibilrwydd o orlifo.

Yn y gorffennol, mae'r Cynghorydd Rob James wedi dweud bod angen i'r penderfyniad "gael ei wneud yn iawn" gan y byddai'n effeithio ar yr ardal am nifer o flynyddoedd.

Wrth siarad yn ôl ym mis Medi 2017, gwadodd Mr James bod yr ymgyrchwyr yn rhoi gwleidyddiaeth o flaen anghenion disgyblion.