Sioe Fawr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 100
- Cyhoeddwyd
Bydd priodas yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ar faes Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru ddydd Llun, wrth i'r ŵyl amaethyddol ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.
Cafodd y pâr priod eu dewis yn dilyn cystadleuaeth ac mae'n un o nifer o ddigwyddiadau i nodi'r achlysur.
Ymhlith yr ymwelwyr ar ddiwrnod cyntaf y sioe oedd y Tywysog Charles a Duges Cernyw.
Rhan o'u dyletswyddau oedd i agor gardd ryngwladol newydd sydd wedi cael ei chreu yn arbennig ar gyfer nodi 50 mlynedd ers yr Arwisgiad.
Bydd Duges Cernyw hefyd yn agor canolfan farchogaeth newydd ar gyfer pob tywydd.
'Nyrfys, ond cyffrous'
Bydd Arwel Edwards a'i ddyweddi Bethan Edwards - o ardal Brynaman - yn priodi o flaen teulu a ffrindiau ar y bandstand, yng nghanol bwrlwm y sioe cyn iddyn nhw wedyn gael neithior yng Nghanolfan yr Aelodau, sydd â golygfa dros y prif gylch.
Cafodd y ddau eu henwebu gan ffrindiau yn dilyn blynyddoedd anodd i'r pâr a'u teuluoedd.
Wrth siarad ddiwrnod cyn y Sioe dywedodd Arwel ei "fod yn dishgwl ymlaen yn fawr.
"Ond dwi'n gobeithio na fydd hi'n rhy dwym i'r siwt.
"Ni wedi cael gymaint o lwc wael dros y blynyddoedd dwetha, i gael rhywbeth fel hyn, mae'n overwhelming."
Mae gan y pâr dri o feibion rhyngddyn nhw, sef Harri, Alfie a Llywelyn - bu mab arall i Arwel, Teifion, farw dair blynedd yn ôl wedi llawdriniaeth aflwyddiannus ar y galon.
Mae Bethan ac Arwel wedi bod yn dangos ceffylau yn y Sioe Frenhinol ers blynyddoedd a ddydd Llun, yn ogystal â gofalu am un o'r modrwyau, bydd Alfie yn cystadlu gyda Max y ceiliog.
Dyletswydd Harri fydd edrych ar ôl y fodrwy arall.
Er bod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ei sefydlu yn 1904, a bod dathliadau i nodi hynny wedi digwydd yn 2004, dim ond eleni mae'r gymdeithas yn nodi ei chanfed sioe.
Cafodd sioeau eu canslo yn ystod y ddau ryfel byd, roedd dogni petrol yn 1948 a chlwy'r traed a'r genau yn 2001.
Nôl yn 1904 bwriad y gymdeithas oedd gwella bridio stoc ac annog amaeth drwy Gymru gyfan.
Cafodd y sioe gyntaf ei chynnal yn Aberystwyth, gyda 442 o anifeiliad yn cystadlu.
Am hanner cyntaf y ganrif roedd y sioe yn teithio rhwng gwahanol safleoedd, gan ymweld â'r de a'r gogledd am yn ail.
Fe sefydlwyd safle parhaol i'r sioe a'r gymdeithas yn 1963 - yn Llanelwedd yn Mhowys.
Erbyn heddiw mae dros 8,000 o anifeiliaid yn cystadlu, gyda dros 20,000 o geir a lorïau yn heidio i'r safle bob dydd yn ystod pedwar diwrnod y cystadlu.
Unwaith eto eleni bydd mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle yr wythnos hon ar lwybrau o'r maesydd carafannau i ganol Llanfair-ym-Muallt.
Cafodd nifer o fesurau eu cyflwyno yn dilyn marwolaeth James Corfield yn mis Gorffennaf 2017, a gafodd ei ddarganfod yn farw yn afon Gwy.
Mae'r mesurau'n cynnwys ffens ddiogelwch ar hyd ochr yr afon yn ogystal ag arwyddion i nodi llwybrau diogel.
Eleni hefyd bydd canolfan fugeilio yn cael ei lleoli yn Llanfair-ym-Muallt i gynorthwyo unrhyw un sydd angen cymorth yn ystod yr wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017