Arddangosfa Eisteddfod Pentrefoelas wedi ei 'fandaleiddio'

  • Cyhoeddwyd
bwgan brain
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r bwganod brain eisteddfodol sydd wedi cael ei ddinistrio

Mae arddangosfa Eisteddfodol ger un o'r prif ffyrdd fydd yn cludo teithwyr at y Brifwyl wedi ei fandaleiddio dros y penwythnos, yn ôl trefnwyr.

Fel rhan o drefniadau Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst, roedd pwyllgor lleol Pentrefoelas wedi creu arddangosfa ger ffordd yr A5.

Fel rhan o'r arlwy, mae 'na hen bafiliwn pinc wedi'i greu allan o feliau gwair a bwganod brain i gynrychioli aelodau'r Orsedd.

Ond mae rhai o'r bwganod brain wedi cael eu tynnu o'r ddaear a'u taflu o gwmpas y lle, sydd wedi achosi siom mawr yn lleol.

Yn ôl un o drefnwyr yr arddangosfa, Alwen Eidda Roberts, mae'n debygol fod y difrod wedi'i wneud yn fwriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Erin Prysor ac Alwen Eidda Roberts eu bod yn hynod siomedig bod eu harddangosfa unigryw wedi'i difrodi

"Mae'r polion wedi cael eu cnocio tair troedfedd mewn i'r ddaear 'efo offer tractor felly mae'n annhebygol mai gwynt sydd ar fai," meddai.

"Roedd 'na un o'r bwganod brain wedi cael ei dorri yn hanner, mae'n siomedig iawn.

"Mi wnaethon ni benderfynu gwneud yr arddangosfa i groesawu pawb, oeddan ni'n meddwl 'sa fo'n drawiadol ac yn gwneud i bobl siarad.

"Mae o wedi gwneud hynny, ma' pobl sy'n pasio wedi dotio'n ei weld o.

"Mae ganddon ni 'Steddfod ein hunain yn y pentre'. 'Da ni wedi adeiladu Pafiliwn Pinc allan o feliau gwair mawr.

"Wedyn roedd ganddo' ni Gerrig yr Orsedd, a chystadleuaeth i deuluoedd lleol wneud bwgan brain 'efo aelod o'r Orsedd a mi gawson ni 15 o fwganod brain - mae o'n dangos sut mae'r gymuned yn dod at ei gilydd."

'Nôl at ei gilydd yn fuan'

Dywedodd un arall o'r trefnwyr, Erin Prysor, bod ymateb "siomedig a blin" wedi bod i'r difrod.

"'Da ni'n teimlo ein bod ni mewn lleoliad delfrydol yn fama ar ochr yr A5, 'efo gymaint o draffig yn heidio yma i gyfeiriad y 'Steddfod. Roedda' ni'n teimlo bod o'n gyfle gwych i greu rhywbeth cofiadwy.

"Dwi'n meddwl bod ni wedi gwneud hynny ond mae o'n bechod bod o 'di troi allan fel hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Pentrefoelas wedi bod yn brysur yn paratoi arddangosfa eisteddfodol cyn y Brifwyl

Ychwanegodd ei fod yn "amlwg" fod y polion wedi eu codi yn fwriadol.

"A mi sylwon ni fod un bwgan brain, ar ôl i rywun fynd i'r drafferth o roi wellingtons arno fo, wel roedd y wellingtons droedfeddi i ffwrdd oddi wrth y bwgan brain.

"Ond 'da ni'n mynd i ddod at ein gilydd yn y dyddiau nesa' gobeithio i roi popeth yn ôl at ei gilydd, fel bod o'r un mor drawiadol yn yr wythnos a hanner sydd 'na cyn yr Eisteddfod.

"'Da ni'n gobeithio'r wythnos nesa' cynnal rhyw barti cymunedol yn y cae er mwyn i'r gymuned ddod at ei gilydd. Rhyw fath o werthfawrogiad a dweud diolch i bawb am helpu'r ymgyrch i gasglu arian ar gyfer yr Eisteddfod."

Ychwanegodd Alwen: "'Da ni eisiau i bobl weld bod 'na groeso'n dal yma i ddod i Bentrefoelas i weld yr arddangosfa achos 'da ni'n browd iawn ohoni ac mi fydd hi'n ôl at ei gilydd yn fuan iawn."