Marwolaeth bwa croes: Dau ddyn arall gerbron llys

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai ar ôl cael ei saethu ym mis Mawrth

Mae dau ddyn arall wedi bod o flaen ynadon ddydd Mercher mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i lofruddiaeth Gerald Corrigan ar Ynys Môn.

Bu farw Mr Corrigan, 74, ar ôl cael ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'w gartref ger Caergybi ym mis Mawrth, ac mae dyn o Fryngwran, Terence Whall, 38, eisoes wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd Darren Jones, 41 oed, a Martin Roberts, 34 oed, eu cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy losgi cerbyd Land Rover Discovery yn Llanllechid ger Bangor ar 3 Mehefin.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa. Doedd dim cais am fechnïaeth, a bydd y ddau yn mynd gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 23 Awst am wrandawiad pellach.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Diolch i bawb sydd wedi cynorthwyo'r ymchwiliad hyd yma.

"Ond rwy'n credu fod yna bobl sydd â gwybodaeth allweddol o hyd am y lofruddiaeth yma. Dewch i siarad gyda'r tîm ymchwilio yn gyfrinachol."

Dydd Mawrth ymddangosodd Gavin Jones o Fryngwran yn Llys y Goron Caernarfon i wynebu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder. Bydd yn y llys eto ar 27 Awst.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod X052857.