Prosiectau a phencampwyr ar restr fer gwobrau'r Loteri

  • Cyhoeddwyd
Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri GenedlaetholFfynhonnell y llun, Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwobrau eleni'n dathlu chwarter canrif o gefnogi prosiectau amrywiol ar hyd y DU

Mae tri phrosiect o Gaerdydd yn apelio am gefnogaeth mewn pleidlais gyhoeddus ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol.

Fe allai Clwb Bocsio Amatur Phoenix Llanrhymni yng Nghaerdydd, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a phrosiect Behind the Label ennill gwobr ariannol o £10,000 petai nhw'n dod i'r brig yn eu categorïau unigol.

Roedd dros 700 o sefydliadau wedi cael eu hystyried cyn llunio'r enwebiadau terfynol ar gyfer gwobrau eleni - sy'n dathlu prosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gyda chymorth arian loteri.

Hefyd mae'r athletwr Paralympaidd Tanni Grey-Thompson a'r bencampwraig Taekwondo, Jade Jones, ar restr fer gwobr i anrhydeddu arwr chwedlonol mwyaf y byd chwaraeon yn y cyfnod ers sefydlu'r Loteri Genedlaethol.

Bydd y cyfnod pleidleisio yn dod i ben ar 21 Awst.

Ffynhonnell y llun, Clwb Bocsio Pheonix Llanrhymni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi cael pedwar pencampwr Cymreig ers ei sefydlu, ac mae un erbyn yn baffiwr proffesiynol

Mae Clwb Bocsio Amatur Phoenix Llanrhymni, dolen allanol ymhlith 10 o brosiectau ar restr fer y categori Chwaraeon.

Cafodd ei agor mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd yn 2008, ac mae hefyd yn ganolfan gymunedol sy'n "cynnig man diogel i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio'r gampfa, bod yn heini a gwella eu lles meddyliol, ynghyd â gwneud ffrindiau newydd".

Mae'r clwb newydd ddechrau cydweithio gyda Heddlu De Cymru i ddod â phobl ifanc oddi ar y stryd mewn ymgais i fynd i'r afael â lefelau troseddau gyda chyllyll ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ers 2008, mae'r clwb wedi derbyn £32,000 mewn grantiau gan Chwaraeon Cymru er mwyn ei sefydlu, ei rhedeg a phrynu offer newydd ac mae wedi llwyddo i gael £9,900 pellach o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynnal clybiau haf a denu rhagor o bobl.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn rhai cofiadwy yn hanes yr Amgueddfa Werin

Mae'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, dolen allanol wedi ei chynnwys yn rownd olaf y categori Prosiect Treftadaeth Gorau.

Ddechrau Gorffennaf fe enillodd yr atyniad anrhydedd Amgueddfa'r Flwyddyn 2019 a gwobr ariannol o £100,000.

Cafodd gwerth £30m o welliannau eu cwblhau i weddnewid y safle mewn pryd i ddathlu pen-blwydd yr amgueddfa yn 70 oed.

Roedd y cyllid ar gyfer y cyfleusterau, orielau ac adeiladau hanesyddol newydd yn cynnwys £11.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol - grant mwyaf erioed y loteri i unrhyw brosiect yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect yn annog pobl i weld yr unigolyn y tu hwnt i broblemau fel digartrefedd, salwch meddwl dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau

Prosiect sy'n ceisio rhoi llais a hunan-barch i bobl sydd wedi bod yn ddigartref yw Behind the Label, dolen allanol, sydd ar restr fer y categori am y Prosiect Diwylliant, y Celfyddydau a Ffilm gorau yn y DU.

Mae'n cael ei gynnal gan yr elusen Theatr Versus Oppression (TVO) mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a'r elusen digartrefedd, The Wallich.

Dywed y trefnwyr bod annog unigolion i rannau profiadau sy'n sail wedyn i berfformiadau theatr amgen yn creu "perfformiad anhygoel o onest a chignoeth sy'n agoriad llygad ac yn archwilio ymddygiadau pobl sydd wedi profi digartrefedd yn ymarferol a'r gwrthdaro a brofir ganddynt.

Cafodd TVO grant o £187,478 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2017 i sefydlu'r prosiect fel rhaglen reolaidd.

Ffynhonnell y llun, Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr enillwyr yn cael tlws a £10,000

Dywedodd Jonathan Tuchner o'r Loteri Genedlaethol bod yr holl sefydliadau yn y rownd derfynol "yn gwneud gwaith anhygoel yn eu cymuned leol" bod eu gwaith "yn creu argraff hynod o arbennig".

Bydd y seremoni wobrwyo'n cael ei darlledu ar BBC1 ym mis Tachwedd.