Profiadau menywod o fewn Plaid Cymru yn 'frawychus'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price mai "lleiafrif bychan" oedd yn gyfrifol am y problemau

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod y gamdriniaeth y mae rhai menywod o fewn ei blaid wedi'i brofi yn "gwbl frawychus".

Nododd Adam Price mewn erthygl nad oedd y blaid "wedi'i hynysu" o'r "don o ragfarn, anoddefgarwch a chasineb at wragedd sy'n bodoli o amgylch y byd".

Dywedodd Mr Price mai "lleiafrif bach" oedd yn gyfrifol, ond nid oedd yn fodlon enwi'r rhai dan sylw.

Mae ymchwiliad bellach wedi cael ei lansio er mwyn edrych ar brofiadau menywod o fewn Plaid Cymru.

Yn ei erthygl ar Nation.Cymru, dywedodd Mr Price y byddai'n gwrthod unrhyw ymdrech gan gefnogwyr Neil McEvoy i'w benodi mewn swydd uchel o fewn y blaid.

"Y gwirionedd trist yw ein bod ni'n byw mewn cyfnod lle mae fitriol a beil yn gefndir i wleidyddiaeth ryngwladol," meddai.

"Mae'n rhaid i ni fod yn onest, nid yw Cymru, na'n hymgyrch genedlaethol wedi'i hynysu gan y don o ragfarn, anoddefgarwch a chasineb at wragedd sy'n bodoli o amgylch y byd."

"Nid yw'r gamdriniaeth rydw i wedi ei weld yn cael ei anelu at fenywod o fewn ein plaid, gan leiafrif bychan ond llafar, yn cyd-fynd ag egwyddorion Plaid Cymru."

Ychwanegodd bod yr hyn a welodd yn "frawychus" ac nad oedd am ganiatáu'r fath beth.

Disgrifiad o’r llun,

AC Arfon, Sian Gwenllian fydd yn gyfrifol am gynnal yr adolygiad

Mae Mr Price wedi gofyn i AC Arfon, Sian Gwenllian i gynnal adolygiad o "brofiadau menywod a grwpiau lleiafrifol eraill" o fewn Plaid Cymru.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ffactorau sydd yn "rhwystro menywod ac eraill rhag ymwneud â'r blaid neu ffactorau sy'n eu rhwystro rhag gwneud cynnydd o fewn y blaid."

Bydd Ms Gwenllian wedyn yn cynnig argymhellion i arweinyddiaeth y blaid.

'Ergyd farwol'

Fe soniodd Mr Price hefyd am "ymdrech i sybornu etholiadau mewnol ar gyfer swyddi ar y Pwyllgor Gweithrediaeth Cenedlaethol NEC."

"Nid yw'r ymdrechion hyn o fewn ein haelodaeth yn llwyddo i gyflawni unrhyw beth heblaw creu rhaniadau o fewn y blaid. Gallai hyn fod yn ergyd farwol i'r ymdrech i sicrhau mai ni fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf ein gwlad.

"Dyw'r fath ymdrechion byth yn dderbyniol o fewn unrhyw blaid, ac fel arweinydd, fedra i ddim, a fyddai ddim yn eu derbyn."