Athro Marc Clement wedi gwneud 'dim byd o'i le o gwbl'

  • Cyhoeddwyd
Marc Clements
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Marc Clement yn dweud nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le

Mae un o ddau bennaeth ym Mhrifysgol Abertawe gafodd eu diswyddo yn sgil "camymddwyn dybryd" wedi dweud ei fod wedi gwneud "dim byd o'i le o gwbl".

Cafodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement eu diswyddo ddydd Gwener.

Roedd y brifysgol yn dweud bod hynny'n dilyn "dadansoddiad manwl ac annibynnol" gan gyfreithwyr ac ymgynghorwyr cyfreithiol.

Ond mae'r Athro Clement wedi gwadu hynny, gan addo apelio'r penderfyniad.

'Dim byd o'i le o gwbl'

Roedd honiadau fod y gwaharddiadau wedi'u cysylltu â phrosiect pentref llesiant gwerth £200m yn Llanelli.

Nid oedd Prifysgol Abertawe am gadarnhau, gan ddweud bod proses ddisgyblu'n parhau yn erbyn aelod arall o staff.

Ond dywedodd y brifysgol bod y ddau wedi eu diswyddo yn sgil ymchwiliad annibynnol ac archwiliad gan banel disgyblu diduedd.

Ychwanegodd y datganiad bod cwynion gan y ddau weithiwr wedi eu "gwrthod yn llwyr" gan yr ymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Athro Richard B Davies wedi bod yn is-ganghellor ar y brifysgol ers 2003

Nos Wener, dywedodd yr Athro Clement mai ei fwriad oedd "gwneud gwahaniaeth i'r rhanbarth".

"Dwi 'di llafurio i'r gorau y gallai gyda'r talent oedd gen i, i wneud gwahaniaeth i'r rhanbarth, ond mae'n rhyfeddol pa mor nerthol mae eiddigedd yn gallu bod," meddai.

"Y bwriad oedd creu gwerth ar ran y rhanbarth a dwi'n dod o Lanelli'n enedigol, a'n uchelgais i oedd cadw gwerth yn Sir Gaerfyrddin ac yng ngorllewin Cymru.

"A dyna yw asgwrn y gynnen fan hyn oedd creu cronfa ar gyfer y gymuned."

'Dim bwriad i elwa'

Pan ofynnwyd iddo a fyddai wedi elwa o'r cynllun dan sylw, dywedodd: "Er bod hawl gen i i elwa, doedd dim bwriad i wneud hynny - o'dd y cyfan eto i ddigwydd.

"Hyd yn oed blwyddyn wedi'r gwaharddiad does dim wedi digwydd eto, a'r pentre' llesiant yn Llanelli - shwt gywaith ryfeddol dan arweinyddiaeth yr Is-ganghellor Richard Davies - dyn rhyfeddol sy' 'di arwain y brifysgol am 15 mlynedd trwy ryw fath o oes aur."

Ychwanegodd: "Wrth gwrs allwn ni fod wedi gwneud pethau'n wahanol."

Dywedodd ei fod wedi gwneud rhai pethau'n "amherffaith" o bosib, ond "dim byd o'i le o gwbl".