Thomas yn gorffen yn ail yn y Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae'r Tour de France wedi dod i ben gyda'r Cymro Geraint Thomas yn gorffen yn yr ail safle.
Ni lwyddodd Thomas i ennill am yr ail dro yn olynol, ac eleni y gŵr o Colombia, Egan Bernal, sydd yn aelod o dîm Inbeos gyda Thomas, orffennodd y ras yn gyntaf.
Fe groesodd Bernal y linell yn y peloton, law yn llaw â'i gyfaill Geraint Thomas.
"Mae gorffen yn ail y tu ôl i aelod arall o'r tîm yn OK," meddai Geraint Thomas ar ddiwedd y ras.
Roedd mantais Bernal yn funud a 11 eiliad dros Thomas yn mynd fewn i'r cymal olaf ddydd Sul, gyda Steven Kruijswijk yn drydydd.
Mae'r cymal olaf yn wahanol i weddill y Tour, gyda thraddodiad nad oes unrhyw un yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn.
Fe orffennodd y Ffrancwr Julian Alaphilippe - a oedd wedi arwain y ras am gyhyd - yn y pumed safle.
Er gwaethaf ymdrechion Thomas i orffen y ras yn gyntaf, dywedodd pennaeth tîm Ineos, Syr David Brailsford ei bod hi wedi bod yn "bleser gweithio gyda Thomas."
"Mae wedi cael ras wych. Pan mae rhywun yn ennill y Tour de France am y tro cyntaf, dydyn nhw byth fel arfer yn dychwelyd ac yn gwneud yn dda y tymor canlynol,
"Mae Geraint wedi mynd yn groes i'r disgwyl ac fe allai fod wedi ennill y ras. Mae'n berson teg ac roedd eisiau ennill.
"Ond pan ddaeth y cyfle i'r tîm ennill roedd 100% y tu ôl i hynny ac mae'n bleser gweithio gydag ef," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019