Ystyried dirwy i wersyllwyr am barcio dros nos ar draeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cael caniatâd cynllunio i osod arwyddion fydd yn eu galluogi i roi dirwy o £100 i bobl am barcio dros nos ger un o draethau Sir Benfro.
Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ystyried cais i osod 10 o arwyddion gorfodaeth am gyfnod arbrofol o 12 mis mewn tri o feysydd parcio'r Ymddiriedolaeth ar draeth Freshwater Beach ger Castellmartin.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth mae nifer gynyddol o bobl yn torri is-ddeddfau trwy barcio a gwersylla yno dros nos, a bod llanast ar eu hôl yn cael "effaith niweidiol ar y cynefin naturiol yma ac yn creu risg i ymwelwyr a bywyd gwyllt".
Ddydd Mercher, fe gymeradwyodd aelodau'r pwyllgor y cais, er bod dros 8,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun.
Roedd yna hefyd 591 o lythyron wedi'u hanfon yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Fe bleidleisiodd 10 o blaid yr arwyddion, yn seiliedig ar amodau newydd, gyda phump yn gwrthwynebu.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth bod yna lanast oherwydd "sbwriel, pebyll wedi eu gadael, carthion dynol a thanau".
Ond mae'r gwrthwynebwyr yn dweud bod y traeth "yn un o'r unig lefydd gwyllt di-dâl sydd ar ôl ar ein morlin".
Maen nhw'n dadlau bod dirwy o £100 yn rhy uchel ac nad oes angen cyfyngiadau parcio yn ystod misoedd llai prysur y flwyddyn.
Bydd mwy o drafodaethau'n digwydd maes o law i benderfynu ar yr union nifer, maint, lliw a lleoliad yr arwyddion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017