Yr Orsedd 'ddim am gymryd rhan' mewn arwisgiad arall

  • Cyhoeddwyd
Y Tywysog CharlesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n 50 mlynedd ers i'r Tywysog Charles gael ei goroni yng Nghastell Caernarfon

Pe bai yna arwisgiad arall fyddai Gorsedd y Beirdd ddim yn mynychu'r achlysur yn ôl yr Archdderwydd newydd Myrddin ap Dafydd.

Yn 1969 chwaraeodd yr Orsedd ran ganolog yn y seremoni pan gafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yng nghastell Caernarfon.

Fe achosodd y digwyddiad rwygiadau mawr, gyda rhai yn frwd o blaid ac eraill yn chwyrn yn erbyn.

Ychwanegodd yr Archdderwydd nad yw'r Frenhines yn aelod o'r Orsedd bellach.

50 mlynedd yn ddiweddarach safbwynt yr Archdderwydd ydy pe bai un arall yn cael ei gynnal, ni fyddai ef "na neb o'r Orsedd yn mynychu unrhyw seremoni o'r fath yn y dyfodol".

"Mae Prif Weinidog Cymru - ac amryw o arweinwyr eraill - wedi dweud yn ddiweddar na ddylid cael arwisgiad arall ac na fydd un chwaith. Dwi'n cytuno efo hynny," meddai.

"Mae Cymru wedi datblygu a does dim angen y math yna o brops arni."

Er iddi gael ei hurddo'n aelod o'r Orsedd yn 1946, dyw'r Frenhines chwaith ddim yn aelod bellach meddai Mr ap Dafydd, gan gyfeirio at yr hyn mae Robin Lewis - cyfreithiwr yr Orsedd - wedi'i ddweud.

Bu newid yn y cyfansoddiad yn 2006 sy'n golygu bod yn rhaid i bawb sy'n aelod allu siarad Cymraeg.

"Dadl Robin Lewis y cyfreithiwr, a phwy ydw i i ddadlau yn erbyn hynny, ydy trwy beidio â dysgu Cymraeg roedd y Frenhines felly yn ei thorri ei hun allan o'r Orsedd," meddai'r Archdderwydd.

"Felly dyna farn gyfreithiol ar y sefyllfa yna."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd o ymwelwyr newydd wedi dod i'r Brifwyl ym Mae Caerdydd llynedd, meddai'r Eisteddfod

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yr wythnos nesaf dywedodd yr Archdderwydd hefyd bod yr Eisteddfod ddim yn cael ei marchnata yn ddigonol dramor a thu allan i Gymru.

Dylai llwyddiant y Brifwyl y llynedd i ddenu ymwelwyr roi "hyder" ei bod hi'n wŷl "arbennig", meddai.

"Mae wedi cael ei esgeuluso gan y cyfryngau Saesneg ym Mhrydain a'r cyfryngau Saesneg yng Nghymru a deud y gwir ers degawdau, ond mae hi yn ŵyl wirioneddol arbennig.

"Os wnewch chi edrych ar y calendrau digwyddiadau yn Visit Britain, sydd yn cynrychioli gwyliau Cymru hefyd, does 'na ddim sôn am yr Eisteddfod.

"Mae hi yn ŵyl ryngwladol ei apêl. Dyma'r un ŵyl Gymraeg blynyddol.

"Pan 'da ni yn mynd dramor 'da ni wrth ein bodd yn cael rhyw brofiad newydd, rhyw ŵyl newydd a rhyw ffenest, drws hyd yn oed, i mewn i ddiwylliant brodorol y wlad honno.

"Dyna yn union mae'r 'Steddfod yn ei gynnig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Myrddin ap Dafydd yn dweud ei fod wedi cael ymateb "arbennig iawn" gan bobl Dyffryn Conwy

Dywedodd Visit Britain ei bod yn hybu Prydain ar draws y byd fel lle i ymweld ag ef, ac yn cydweithio gyda Croeso Cymru i farchnata Cymru.

Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod gwŷliau a digwyddiadau yn cael eu hysbysebu trwy ei sianeli marchnata a'i chanolfan cyfryngau rhyngwladol, a bod ei gwefan ddigwyddiadau byd-eang wedi ei ddiweddaru gyda gwybodaeth ynglŷn â'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

'Hyrwyddo yn digwydd'

Dylai Croeso Cymru fod yn gyfrifol am farchnata'r ŵyl dramor meddai'r Archdderwydd.

"Mae rhaid i ni gael y grym yna i hyrwyddo ein Cymreictod a'n gŵyl genedlaethol ni yng Nghymru," meddai.

Wrth ymateb dywedodd Croeso Cymru ei bod yn "hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru i gynulleidfaoedd adref a thramor; ac mae'r Eisteddfod yn ymddangos yn ein cyfryngau a gwaith ymgyrchu parhaus".

Eleni mae'r Eisteddfod wedi rhoi 6,000 o docynnau am ddim i bobl Sir Conwy ar gyfer dydd Sul cyntaf yr wythnos wedi i'r llywodraeth fynd i'w pocedi.

Mae angen "datblygu'r math yma o nawdd," meddai'r Archdderwydd, ar gyfer y bobl sydd yn byw yn yr ardal lle mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal.

'Ffenest siop' i'r iaith

Y llynedd doedd dim tâl mynediad ym Mae Caerdydd, gyda'r Eisteddfod yn ysgwyddo'r baich ariannol.

"Ydy hi'n mynd i fod yn ŵyl agored, boblogaidd fel y Bae y llynedd? Wel fedar yr Eisteddfod ddim fforddio £300,000 o ddyled arall. Felly mae'n rhaid cael ewyllys gwleidyddol."

Dyma un ffordd o geisio cyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Mr ap Dafydd.

"Mae'r 'Steddfod yn ffenest siop wych ar gyfer pob oedran, ar gyfer bob math o wahanol gelfyddydau sydd yn rhan o'n diwylliant ni. Felly mewn ffordd mae'r ateb yn fanna," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "darparu cyllid parhaus i'r Eisteddfod er mwyn iddi ddatblygu'r hyn y mae'n ei chynnig i amrywiaeth ehangach o gynulleidfaoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyfle i fechgyn ymgeisio i ddawnsio yn ystod y prif seremonïau eleni

Mae Mr ap Dafydd eisoes wedi gosod ei stamp ei hun fel Archdderwydd, gan awgrymu bod angen moderneiddio'r Orsedd, ac fe welwyd newidiadau yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod 2020 fis Mehefin.

Roedd adloniant gan Ail Symudiad, y comedïwr Ifan Tregaron a cherdd newydd gan y Prifardd Hywel Griffiths.

Mae'r Archdderwydd yn awyddus i barhau i gynnig "ffresni a newydd-deb" yn seremonïau'r Orsedd sydd yn digwydd yn yr awyr agored.

'Braint a chyfrifoldeb'

Yr wythnos nesaf hefyd mae llond llaw o bobl o wledydd tramor neu eu teuluoedd yn dod o dramor, yn cael eu hurddo yn Eisteddfod Llanrwst. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd.

"Dwi'n meddwl bod 'na arwyddocâd pendant i hynny eleni, bod modd i'n diwylliant ni - sydd wedi cael ei alw yn rhywbeth mewnblyg ac ynysig achos bod ni yn defnyddio'r Gymraeg - wrth ddefnyddio ei hiaith ei hun a dathlu ei diwylliant ei hun, ar yr un pryd fod yn rhan o frawdgarwch o wledydd sydd hefyd yn coleddu yr un cynhesrwydd at eu diwylliannau eu hunain," meddai.

Fel un sydd wedi ei eni a'i fagu yn Llanrwst mae bod yn Archdderwydd gyda'r Brifwyl yn dychwelyd i fro ei febyd yn "fraint a chyfrifoldeb", meddai.

"Mae'r ymateb dwi wedi ei gael gan bobl a phlant y dyffryn wedi bod yn arbennig iawn. A dweud y gwir do'n i ddim yn disgwyl y fath ymateb.

"Mae 'na rwbath yn yr hen Orsedd a'r seremonïau 'ma ac arwyddocâd hyn i gyd sydd yn cyffwrdd pobl yn ddwfn iawn, iawn, iawn."