Yr Eisteddfod ar deledu, radio ac ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Arlwy'r Eisteddfod

Os ydych chi'n methu bod yn Llanrwst eleni 'does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, y cyngherddau nac awyrgylch y prif faes - oherwydd bydd yna ddarpariaeth estynedig o holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod ar-lein, ac ar y radio a theledu drwy gydol yr ŵyl.

Yr Eisteddfod yw canolbwynt BBC Cymru ac S4C yr wythnos hon, gyda darpariaeth estynedig o'r pafiliwn, o'r maes ac o ddigwyddiadau'r Eisteddfod ar deledu, radio ac ar-lein drwy gydol yr ŵyl.

BBC Cymru Fyw

Ar wefan BBC Cymru Fyw bydd modd gwylio fideo byw o'r pafiliwn trwy'r dydd ar bob dyfais, yn cynnwys cyfieithu ar y pryd yn Saesneg. Yn ogystal, fe fydd yr holl ganlyniadau ar gael a fideos o uchafbwyntiau'r cystadlu yn y Pafiliwn, y newyddion diweddaraf o'r Maes ac orielau o luniau dyddiol.

Dilynwch bbc.co.uk/cymrufyw neu lawrlwythwch Ap Cymru Fyw.

S4C

Tara Bethan fydd yn cyflwyno Croeso i'r Eisteddfod, ac yn agor drysau'r ŵyl am eleni gan roi sylw i sioeau 'Y Tylwyth' gyda Myrddin ap Dafydd, Gwyneth Glyn a Twm Morus, 'Te yn y Grug' gyda Karen Owen, Al Lewis a Cefin Roberts ac arddangosfa Rhodri Owen o greiriau Orig Williams y reslar a thad Tara Bethan.

Nia Roberts, Heledd Cynwal, Iwan Griffiths a Meilyr Williams fydd yn croesawu gwylwyr i'r rhaglenni byw dyddiol. Rhaglen y Dydd fydd yn cyflwyno'r cystadlu o'r pafiliwn yn ogystal â rhoi blas o'r amrywiaeth o ddigwyddiadau ac atyniadau eraill ar y maes. Bydd crynhoad o uchafbwyntiau'r dydd yn Mwy o'r Maes, gyda Ffion Dafis a Lisa Gwilym, gan gynnwys yr holl ganlyniadau a bydd rhaglen arbennig ar y nos Sul olaf yn crynhoi Uchafbwyntiau'r Wythnos gyda Tara Bethan unwaith eto.

CROESO I'R EISTEDDFOD: Iau, 8pm

RHAGLEN Y DYDD: Sadwrn-Sul 11am; Llun-Sadwrn 10am

MWY O'R MAES: Sadwrn 9.15pm; Sul 9.35pm; Llun 8pm; Mawrth 8pm; Mercher 9.30pm; Iau 8pm; Gwener 9.30pm; Sadwrn 8pm

Y GYMANFA GANU: Sul 8pm

Y BABELL LÊN: Llun-Gwener 10.30pm; Sadwrn-Sul 10.00pm

UCHAFBWYNTIAU'R WYTHNOS: Sul 7.30pm

UCHAFBWYNTIAU'R BABELL LÊN: Sul 10pm

Gwyliwch yr Eisteddfod yn fyw ac ar alw drwy'r wythnos ar wefan S4C, dolen allanol.

BBC Radio Cymru

Nia Lloyd Jones fydd yn dod â blas o wyl deithiol fwyaf Ewrop bob dydd, tra bydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn cadw llygaid barcud ar y cystadlu yn y pafiliwn a Ffion Emyr yn chwilio am brofiadau Eisteddfodwyr dros yr wythnos.

Bydd uchafbwyntiau'r Babell Lên gyda Catrin Beard am 7.30pm a Beti George fydd yn rhoi blas o'r brifwyl gyfan bob nos am 6.15pm yn Tocyn Wythnos. Bydd cyfle i bobl ddweud eu dweud mewn trafodaeth ar bynciau llosg y dydd ar Taro'r Post am 1pm gyda Garry Owen.

Un o uchafbwyntiau cerddorol yr wythnos fydd Gig y Pafiliwn a bydd Lisa Gwilym a Huw Stephens gefn llwyfan tra ar nos Fercher o 9pm, bydd Brwydr y Bandiau a chyfle i'r to newydd efelychu cyn-enillwyr Alffa am y goron eleni.