Oriel o atgofion Tara Bethan

  • Cyhoeddwyd
Tara BethanFfynhonnell y llun, Geraint Todd

Mae Tara Bethan yn wyneb cyfarwydd i nifer - o actio'r cymeriad Angela yng nghyfres Pobol y Cwm i fod yn brif leisydd y band Lleden fydd yn perfformio yn y gig mawr ym Mhafiliwn y Maes ar nos Iau, 8 Awst.

Yn ferch i'r reslar Orig Williams, cafodd Tara ei magu yn ardal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mhentref Llansannan.

Yma, mae hi'n hel atgofion gyda Cymru Fyw ynglŷn â rhai o luniau mwya' arwyddocaol ei bywyd a'i gyrfa.

Dad

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Ynghanol teithio efo Joseph and his Amazing Technicolour Dreamcoat fe gollon ni Dad. Diolch byth ro'n i mond rhyw awr a hanner i ffwrdd yn Stoke ar y pryd felly mi wnes i lwyddo ei gwneud hi nôl i ddeud ta-ta.

Dad oedd fy arwr, fy ffrind a fy efaill o ran tymer! Roedd y ddau o'na ni MOR debyg. Eithafol, gonest a gwyllt. Dwi'n ei fethu fel yr andros ond mor ddiolchgar am y 25 mlynedd ges i efo'r cawr llawn cariad.

Mam

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Mae Mam yn uffar o ddynes. Mae hi WASTAD fyny am barti! Mae fy ffrindiau wrth ei boddau pan mae hi efo ni.

Fel y gwelwch, mae hi'n hollol hapus mewn sequins a gwisg ffansi (diolch byth oherwydd dwi y ffan MWYAF o wisgo'n wirion). Dyma ni ar fy hen do. Symudodd Mam i fyw i Tenerife ar ei phen ei hun yn fuan ar ôl i ni golli Dad. Mae hi'n ddewr a chryf er mor swil a di-hyder. Mae hi'n gorjys ac yn gymaint o lady. Fel ddudis i, dwi'n tynnu ar ôl Dad!

Haystacks

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Roedd tyfu fyny ar y lôn efo reslwyr yn normal i mi. Dwi'n deall erbyn hyn ei fod yn beth reit anarferol!

Dwi'n ddiolchgar am fy nghefndir anghonfensiynol. Mi ddysgais i foesau ac egwyddoroion da. Pawb yn un tîm, pawb yr un peth. Dim merched/bechgyn, neb rhy bwysig i helpu a muckio mewn. Dyma fi yn 10 wythnos oed ar daith efo Giant Haystacks yn Iwerddon.

Nancy

Dwi prin yn nabod hon. Y gwallt o botel a'r 'tits and teeth' anonest.

Dyma fi fel Nancy gobeithiol yn rhaglen Andrew Lloyd Webber I'd Do Anything ar slot hynod boblogaidd BBC One am 8pm nos Sadwrn, rhyw 11 mlynedd nôl. Ddoish i'n ddegfed.

Roedd hwn sicr yn drobwynt yn fy ngyrfa. Es i mlaen i chwara' fy dream role o'r Narrator yn sioe Joseph yn syth wedyn ar daith am 17 mis.

Dyna pryd sylweddolais bod sioeau cerdd bellach ddim i fi - MOR AILADRODDUS!

Yoga

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Dyma fi'n dysgu fy ngwers yoga cyntaf erioed wedi mis o hyfforddi allan yn India yn 2016. Roedd y profiad yn drawsnewidiol. Mae yoga wedi cyfoethogi fy mywyd tu hwnt i eiriau. Yn gorfforol, meddyliol, ysbrydol a phroffesiynol.

Mae camddealltwriath mawr yn y gorllewin am yoga. Fedrai ddim deud wrtha chi faint o bobl sydd wedi deud wrthai "dwi ddim yn dda yn yoga" neu "dwi ddim yn hyblyg, dwi methu gwneud yoga". Mae yoga i BAWB… ddim jyst i'r merched hot 'na mewn leotards mae cwmnïau twyllodrus yn eu defnyddio i hyrwyddo'i rybish.

Gweithio o fewn eich gallu personol chi i hwyluso eich corff a'ch meddwl ydi sut dwi'n disgrifio yoga. Mae'n trît hyfryd a bellach, hanfodol, i mi .

Kilimanjaro

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Dyma fi ar dop mynydd Kilimanjaro yn Tanzania yn 2013. Dyma'r tro cyntaf dwi'n cofio teimlo'n falch o fy hun am wneud rhywbeth oedd â dim i wneud â fy ngyrfa - camp bersonol 'lly.

Es i draw yna ar ben fy hun ac ymuno â sherpas a chriw o bobl o bob cwr o'r byd y noson cyn cychwyn ar y daith o bump diwrnod. Profiad ANHYGOEL. Roedd hi'n -17 gradd Celcius ar y top ac fe rewodd fy ffôn a fy nghamera felly diolch mawr i Emil o Awstria am dynnu hwn a'i anfon ata i!

Priodas

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

"Never a dull moment" oedd ateb fy ngŵr pan ofynodd Mam "how do you put up with her?". Dwi'n lwcus uffernol bod Wil yn ffendio fy ffyrdd 'lliwgar' yn ddifyr!

Fe briodon ni llynedd. Gafon ni barti mawr, gorjys yn fy hen gartref lle ges i fy magu. Nes i joio GYMAINT. Ein teuluoedd, ffrindie, bwyd Indiaidd, Côr Meibion Llansannan (lle es i'r ysgol gynradd), Band Pres Llareggub a nifer anghredadwy o sequins, glitter a gwisg ffansi.

Ond y diwrnod gore i mi oedd pan briododd y ddau ohonom yn dawel bach yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd dyddiau ynghynt. Dyma ni tu allan y parlwr tatŵ lle aethon ni'n syth ar ôl priodi!

Y Fan

Ffynhonnell y llun, Tara Bethan

Campio ydi fy nihangfa. Dyma fy fan sydd bellach yn 14 mlwydd oed.

Ma' arna fi a Wil gymaint o ddiolch i hon. 'Da ni'n dianc ynddi pob munud posib. Does DIM BYD gwell na deffro mewn cae gyda sŵn y môr yn gefndir. Bach o yoga tra ma'r coffi'n bragu a wedyn wyau yn y badell a syth mewn i wrap efo sbigoglys a saws tobasco. Nefoedd.

Iechyd meddwl

Ahh, y bonheddwr Dewi Llwyd. Dewi oedd y rheswm wnes i siarad yn gyhoeddus am fy iechyd meddwl am y tro cyntaf.

Dwi wedi dod yn fwy ymwybodol o fy iechyd meddwl ers colli fy nhad ond mae'n debyg bod iselder wedi bod yn rhan o mywyd i ers lot cyn hynny. Therapi siarad a yoga ydi'r ddau declyn dwi'n eu defnyddio i warchod fy hun rhag y cymylau du sydd yn ymddangos o bryd i'w gilydd a dwi wastad wedi bod yn agored am fy sialensau efo fy meddwl.

Ond ar raglen Dewi ar Radio Cymru fis Rhagfyr y llynedd y rhannais fy mhrofiadau yn gyhoeddus gyntaf. Ges i ymateb mor garedig a phositif gan gymaint o bobl oedd yn gallu uniaethu. Mae unigrwydd ond yn gwaethygu iselder a dwi wir yn credu drwy normaleiddio'r sgwrs y gallwn helpu ein gilydd a'n hunain.

Lleden

Ffynhonnell y llun, RHODRI BROOKS PHOTOGRAPHY

Ffurfwyd Lleden fel band i ddathlu 20 mlynedd o Maes B. Un gig oedd hi i fod, yn Steddfod Sir Fôn 2017. Dwi'n teimlo mor lwcus ein bod wedi cael y cyfle i gario 'mlaen.

Fel un sydd wastad wedi perfformio fel unigolyn dwi WIR yn caru bod mewn band. Yn enwedig gyda fy ngŵr a dau o'n ffrindie gore ni! Bob cyfle posib fyddan ni'n troi gig mewn i noson o gampio lle bynnag yr ydan ni gan bo' gan bawb yn y band fan. Joio byw!

Ein gig mwyaf, heb os, fydd Gig y Pafiliwn yn Llanrwst ar nos Iau yr Eisteddfod 'leni hefo Eden, Diffiniad a Cherddorfa y Welsh Pops. Methu blincin aros!

Mae sioe amlgyfrwng arbennig am Orig Williams, y reslar El Bandito, i'w weld yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod trwy gydol yr wythnos.

Hefyd o ddiddordeb