Achos Daniel Morgan: Tri'n cael £400,000 mewn iawndal
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn a gafodd eu cyhuddo o lofruddio ditectif preifat o Gymru wedi cael cyfanswm o £414,000 mewn iawndal ar ôl i lys ddyfarnu bod Heddlu'r Met yn Llundain wedi eu herlyn yn faleisus.
Bydd Jonathan Rees a Glenn Vian yn derbyn £155,000 yr un, a bydd Garry Vian syn cael £104,000 ar ôl ennill eu hachos yn y Llys Apêl.
Cafodd y tri eu cyhuddo yn 2008 o lofruddio Daniel Morgan yn 1987. Fe gafodd ei ddarganfod yn farw gyda bwyell yn ei wyneb mewn maes parcio tŷ tafarn yn ne ddwyrain Llundain.
Dywedodd y barnwr bod yr iawndal yn cynnwys swm sy'n "tanlinellu a chondemnio ymddygiad dybryd a chywilyddus uwch swyddog heddlu profiadol", sef y Ditectif Uwch-Arolygydd David Cook, oedd yn goruchwylio'r ymchwiliad i lofruddiaeth Daniel Morgan ar y pryd.
Mae yna gred bod llofruddiaeth Mr Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, wedi cael ei chomisiynu am ei fod yn cynnal ymchwiliad i honiadau o lygredd yn rhengoedd yr heddlu.
Yn 2001 cafodd yr achos yn erbyn y tri dyn ei ollwng, ac fe gofnodwyd dyfarniadau eu bod yn ddieuog.
Cafodd eu cais am iawndal ei wrthod yn wreiddiol yn yr Uchel Lys ond roedd eu hapêl y llynedd yn erbyn y dyfarniad hwnnw yn llwyddiannus.
Tanseilio tystiolaeth
Nododd y Barnwr bod panel annibynnol a sefydlwyd yn 2013 gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Theresa May, i edrych i achos Mr Morgan heb gyflwyno adroddiad hyd yma, ond bod gorchwyl eu hymchwiliad yn cynnwys "rhan llygru o fewn yr heddlu o ran gwarchod y rhai oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth rhag cael eu herlyn a methiant i fynd i'r afael â'r llygredd yna".
Clywodd yr Uchel Lys yn 2017 y bu'n rhaid hepgor tystiolaeth allweddol dyn o'r enw Gary Eaton o achos arfaethedig y Goron am fod Mr Cook wedi ymwneud â'r tyst mewn ffordd oedd yn tanseilio cywirdeb y dystiolaeth,
Dywedodd barnwr bryd hynny bod Mr Cook "yn fwriadol" wedi cyflwyno achos "gan wybod ei fod wedi ei lygru o ganlyniad ei ddrygau ei hun".
Wrth ymhelaethu ar ddyfarniad y Llys Apêl ddydd Mercher, dywedodd Mrs Ustus Cheema-Grubb bod tystiolaeth Mr Eaton yn y cyfnod dan sylw, "er yn ddiniwed yn y lle cyntaf, wedi ehangu cryn dipyn i gynnwys presenoldeb yn safle'r llofruddiaeth yn fuan wedi comisiwn y llofruddiaeth ynghyd â gwybodaeth bod [y tri dyn] yn yr ardal".
Ychwanegodd na allai "cred onest" bod rhywrai yn euog "gyfiawnhau erlyn unigolion drwgdybiedig ar sail tystiolaeth ffug".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd15 Mai 2014