Methiannau'r heddlu: Talu £50,000
- Cyhoeddwyd
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi dweud y dylid ail agor yr ymchwiliad i lofruddiaeth dyn o dde Cymru yn Llundain yn 1987.
Cafwyd hyd i Daniel Morgan o Lanfrechfa ger Cwmbran mewn maes parcio yn Sydenham gyda bwyell yn ei ben.
Ar y pryd roedd Daniel Morgan yn cynnal ymchwiliad i honiadau o lygredd yn rhengoedd yr heddlu.
Fe ddaeth sylwadau Mr Johnson wrth i Swyddfa Awdurdod Llundain gadarnhau eu bod wedi cynnig taliad o £50,000 i deulu Mr Morgan "er mwyn cydnabod yn ariannol yr ymdrechion wnaed gan deulu Mr Morgan i dynnu sylw at fethiannau'r heddlu ar ôl ei lofruddiaeth."
Yn 2008 fe fethodd achos yn erbyn pedwar dyn gafodd eu cyhuddo o lofruddio Mr Morgan.
Daeth yr achos llys i ben yn dilyn honiadau o gamgymeriadau gan yr heddlu a'r erlyniad.
Yn 2011 fe dderbyniodd teulu Mr Morgan ymddiheuriad gan yr heddlu a thaliad o £125,000 tuag at gostau cyfreithiol.
Cyhoeddwyd y llynedd y bydd panel o arbenigwyr cyfreithiol yn ymchwilio i honiadau bod llygredd gan yr heddlu wedi atal ymchwiliad ag achos llys teg.
Yn ôl brawd Daniel Morgan, Alastair, mae'r taliad diweddaraf o £50,000 yn "chwerthinllyd o fychan" ac nid yw'n cwrdd â chyfran o gostau'r teulu wrth iddyn nhw frwydro am gyfiawnder.
Dywedodd: "Mae'r holl system gyfreithiol wedi ein methu. Rydym wedi bod yn gwneud y gwaith a ddylai fod wedi ei wneud gan yr awdurdodau."
Mewn datganiad ar ran heddlu Llundain dywedodd llefarydd:
"Rydym yn difaru yn fawr nad oes rhywun wedi wynebu cyfiawnder oherwydd y llofruddiaeth yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011